Yn ei gyfarfod yr wythnos nesaf, bydd Panel Craffu Perfformiad Ysgolion yn ystyried sut rydym yn sicrhau bod cysondeb mewn cefnogaeth i ysgolion gan arweinwyr herio. Dyma un o’r materion a amlygwyd ar gyfer gwaith ychwanegol gan y panel pan siaradon nhw ag ysgolion dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae rhai o’r materion y mae gan y Panel ddiddordeb arbennig ynddynt yn cynnwys:
- Sut mae arweinwyr herio’n rhoi cyngor a chefnogaeth i ysgolion er mwyn iddynt fodloni’r amcanion a nodwyd yn eu cynllun gwella ysgol.
- Y strategaethau a ddefnyddir ar draws y gwasanaeth gan arweinwyr herio i wella perfformiad ysgolion.
- Sut mae gweithgareddau arweinwyr herio unigol yn cael eu cydlynu i sicrhau cysondeb.
- Sut caiff effeithiolrwydd arweinwyr herio ei fesur.
- Sut maent yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau eu bod yn cynnwys lleisiau plant a phobl ifanc yn eu teithiau gwella.
Bydd y panel yn cwrdd â Phennaeth Gwella Ysgolion a Phrif Swyddog Addysg y cyngor i drafod y materion hyn ac yna bydd yn nodi ei farn mewn llythyr at aelod/au perthnasol y Cabinet.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y gwaith hwn neu graffu’n gyffredinol, gallwch gysylltu â ni yn scrutiny@swansea.gov.uk
Leave a Comment