Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Craffu Cyllid

Cyfarfod nesaf y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Craffu Cyllid yw dydd Mercher nesaf (17 Medi) am 1.30pm. Rôl y panel yw craffu ar berfformiad corfforaethol, gwella gwasanaethau a threfniadau cyllideb y cyngor.

Rhai o’r eitemau ar agenda’r mis hwn yw:

  • Manylion am strategaeth ymgysylltu ymgynghori cyllideb y cyngor
  • Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru
  • Adroddiad Monitro Ariannol Diwedd y Flwyddyn
  • Adroddiad Monitro Cyllideb y Chwarter 1af, gan gynnwys Teclyn Olrhain Arbedion y Gyllideb

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Os hoffech gael rhagor o fanylion, ffoniwch y Tîm Craffu ar 01792 636292 neu e-bostiwch  scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.