Gwaith craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn parhau i ddatblygu

Bydd Panel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn cyfarfod eto ddydd Llun nesaf (22 Medi am 11am yn Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig). Mae’r panel yn cyfarfod ag aelodau Gr?p Gweithredol y Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLl). Mae’r gr?p hwn yn cynrychioli partneriaid statudol allweddol y BGLl ac yn ymgymryd â gwaith manwl ar ran y BGLl ehangach. Mae’r aelodau a fydd yn bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr o’r heddlu, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe.

Diben y drafodaeth yw datblygu dealltwriaeth y panel o waith y BGLl ymhellach a bydd yn canolbwyntio’n benodol ar y canlynol:

  • dealltwriaeth o rôl pob sefydliad wrth gyflawni blaenoriaethau’r BGLl
  • dysgu am lwyddiannau allweddol
  • dysgu am heriau allweddol
  • chwilio am syniadau ar gyfer eitemau posibl i’w cynnwys yng nghynllun gwaith y panel

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Os ydych yn bwriadu dod, ffoniwch y Tîm Craffu ar 01792 636292.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.