Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid yn edrych ar raglen Dechrau’n Deg

Photo credit: City & County of Swansea

Photo credit: City & County of Swansea

Bydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid yn cwrdd ddydd Mercher, 15 Hydref am am 1.30pm (Ystafell Gyfarfod y Siambr, Canolfan Ddinesig).

Ar ei agenda y mis hwn mae adroddiad sy’n rhoi manylion am raglen Dechrau’n Deg. Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw hon gyda’r nod o wella deilliannau i blant dan 4 oed yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Nododd y panel fod y rhaglen hon yn faes yr oeddent am ei archwilio’n fanwl er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’i berfformiad a sut mae’n cyflwyno gwasanaethau. Y rheswm dros hyn yw y sylwyd yn flaenorol wrth ddarllen Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn y cyngor nad oedd nifer o dargedau wedi cael eu pennu i’r rhaglen oherwydd dulliau casglu data newydd a sylwyd hefyd yn y Cynllun Gwella Corfforaethol bod risgiau wedi cael eu nodi i berfformiad parhaus o ganlyniad i ehangiad y rhaglen. Felly gofynnodd y panel am adroddiad manylach i’w ystyried fel y gallent ddeall y sefyllfa y tu ôl i’r data perfformiad a chael gwell dealltwriaeth o’r rhaglen a’i chyfraniad cyffredinol at nodau’r cyngor.

Er mwyn cynorthwyo’u dealltwriaeth, ymwelodd nifer o aelodau’r panel â Phrosiect Dechrau’n Deg Seaview (yn Townhill) yr wythnos ddiwethaf. Cyfarfuont ag amrywiaeth eang o staff gan gynnwys rheolwr cyffredinol Strategaeth y Blynyddoedd Cynnar, cydlynydd Dechrau’n Deg, bydwraig, ymwelydd iechyd, swyddog data, athro cyswllt, gweithwyr cefnogi teuluoedd a rheolwr gofal plant. Gwnaeth ymroddiad y staff argraff fawr ar y cynghorwyr ynghyd â’u hanesion o lwyddiant roeddent yn gallu tynnu sylw atynt. Rhoddodd hyn fewnwelediad i’r problemau hirsefydlog y mae Dechrau’n Deg yn ceisio mynd i’r afael â nhw yn ogystal â gwell dealltwriaeth o gyflawniadau’r rhaglen.

Hefyd ar agenda’r panel y mis hwn mae cyflwyniad gan Reolwr Gwella Corfforaethol y cyngor ar Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2013-14 ac adroddiad am Fonitro Perfformiad y Chwarter Cyntaf. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth i’r panel i’w helpu i ganolbwyntio a chyfeirio eu gwaith a nodi meysydd perfformiad allweddol y gallai fod angen mwy o graffu arnynt.

Yn olaf, bydd gofyn i’r panel nodi 9fed Bwletin Perfformiad Blynyddol yr Uned Data Llywodraeth Leol sy’n cymharu perfformiad awdurdodau lleol ledled Cymru yn 2013-14. Bydd hyn yn paratoi ar gyfer sesiwn ddatblygu ym mis Tachwedd, a gynhelir gan yr Uned Data Llywodraeth Leol, er mwyn cynorthwyo cynghorwyr craffu i wneud y defnydd gorau o ddata perfformiad. Caiff gwahoddiad ei anfon at holl gynghorwyr craffu ar ôl cwblhau’r trefniadau.

Os hoffech chi fynd i’r cyfarfod hwn, ffoniwch y Tîm Craffu ar 01792 636292.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.