Ymchwiliad Craffu ar Dwristiaeth – Beth fu’r effaith?

view of city

Nododd y panel yn ei adroddiad terfynol ym mis Mehefin 2013 ei fod yn teimlo’n obeithiol iawn am ddyfodol y diwydiant twristiaeth yn Abertawe. Mae’n cydnabod bod nifer o heriau i’w hwynebu yn y dyfodol a’n bod mewn sefyllfa gymharol dda i fynd i’r afael â nhw.  Mae’n pwysleisio bod gennym gymaint i’w gynnig i ymwelwyr a chyda photensial Copropolis yn y dyfodol, canmlwyddiant Dylan Thomas a’r potensial i ddatblygu safleoedd ar hyd Bae Abertawe, rydym yn symud yn y cyfeiriad cywir.

Bydd y Panel Ymchwilio Craffu Twristiaeth bellach yn cwrdd ag aelodau’r cabinet i ddilyn y cynnydd o ran yr argymhellion sy’n tarddu o’r ymchwiliad hwn gan geisio atebion i’r tri chwestiwn canlynol

  1. Beth sydd wedi newid ers cyflwyno’r adroddiad gwreiddiol i’r cabinet?
  2. A yw’r argymhellion y cytunwyd arnynt wedi’u rhoi ar waith?
  3. Beth fu effaith yr ymchwiliad craffu?

Cynhelir y cyfarfod ddydd Llun 17 Tachwedd 2014 am 5pm ac fe’i cynhelir yn y Ganolfan Ddinesig. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y cyfarfod hwn neu graffu’n gyffredinol, e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.