Beth sydd nesaf i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid?

Bydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Craffu Cyllid yn cwrdd ar 12 Tachwedd am 1.30pm – yn Ystafell Gyfarfod y Siambr, Canolfan Ddinesig.

Y mis hwn byddant yn cwrdd â’r Cyng. Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Addysg. Bydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Panel ar gynnydd tuag at gyflawni targedau arbedion o fewn y portffolio Addysg a’i barn ar a oes unrhyw feysydd o bryder neu faterion sylweddol posib sy’n ymwneud â’r gyllideb addysg, cyn cymryd cwestiynau gan y panel.

Hefyd, ar yr agenda y mis hwn y mae’r Datganiad Cyllideb Canol Tymor. Bydd y Panel yn clywed gan Mike Hawes (Pennaeth Cyllid a Chyflwyno) a bydd yr adroddiad yn helpu’r panel i ddeall y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyllideb 2014/15 yn ogystal ag asesiad cychwynnol o sefyllfa gyllidebol 2015/16, h.y. faint o arian y mae’r cyngor yn disgwyl derbyn er mwyn ei wario’r flwyddyn nesaf.

Bydd hyn hefyd yn cael ei adrodd i’r Cyngor; fodd bynnag bydd y cyfarfod craffu yn rhoi cyfle i’r cynghorwyr edrych ar yr adroddiad yn fwy manwl a bydd yn eu helpu i baratoi ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2015/16, a fydd yn rhan fawr o’u gwaith yn y flwyddyn newydd.

Os oes diddordeb gennych mewn mynychu’r cyfarfod, cysylltwch â’r Tîm Craffu drwy ffonio 01792 636292 neu e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.