Mae angen i ni glywed eich straeon defnyddwyr

user stories

Os ydych chi’n ymwneud â chraffu yn Abertawe neu yn unrhyw le arall, os ydych chi’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd, yn rhoi tystiolaeth neu os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith, hoffem glywed gennych. Rydym yn gwneud rhywfaint o waith ar wella’r ffordd rydym yn darparu gwybodaeth ac rydym am wneud yn si?r ein bod yn diwallu anghenion pobl. Darllenwch am yr hyn rydym wedi’i wneud hyd yn hyn isod, a dywedwch wrthym a ydym ar y trywydd iawn.

Mae’r gwaith hwn yn dilyn sgwrs a gawsom am ddemocratiaeth ar-lein yn govcampcymru.

Rydym yn darparu gwybodaeth am ein gwaith craffu mewn sawl ffordd. Y prif rai yw:

I symleiddio’r hyn rydym yn ei wneud a sicrhau ein bod yn rhoi’r hyn y mae ei angen ar bobl, rydym wedi bod yn defnyddio dull o’r enw straeon defnyddwyr. Rydym wedi’i fenthyg gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. Ymagwedd yw hon sy’n eich gorfodi i feddwl yn union am y sawl sy’n defnyddio’r wybodaeth, yr hyn y mae ei angen arnynt a pham. Caiff pob stori ei hysgrifennu mewn ffordd fanwl sydd bob amser yn dilyn yr un fformat.

Fel…mae angen i mi.. fel y gallaf….

Rydym wedi bod yn siarad â phobl am eu straeon defnyddwyr ar gyfer craffu ac wedi dechrau eu rhoi at ei gilydd. Dyma’r straeon defnyddwyr ‘epig’ (trosgynnol) rydym wedi’u nodi hyd yn hyn (nid yw’r rhain mewn trefn benodol):

  1. Mynd i gyfarfodydd: Fel person a fydd o bosib yn bresennol, mae angen i mi weld manylion cyfarfodydd y dyfodol fel y gallaf gynllunio fy nghyfranogaeth
  2. Ymwybyddiaeth o bwnc: Fel person y mae craffu’n effeithio arno, mae angen i mi weld y pwnc y mae craffu’n ymchwilio iddo wneud fel y gallaf gymryd rhan os oes angen i mi wneud hynny
  3. Paratoi ar gyfer cyfarfod: Fel person sy’n ymwneud â chyfarfod, mae angen i mi weld agendâu, cofnodion ac adroddiadau fel y gallaf baratoi’n effeithiol
  4. Y broses graffu: Fel person sy’n ymwneud â chraffu, mae angen i mi weld crynodeb byr o’r broses, gan gynnwys rolau’r rhai sy’n rhan o’r craffu fel y gallaf ddeall yr hyn sy’n digwydd
  5. Codi materion: Fel rhywun â phryder mae angen i mi allu trosglwyddo fy mater i’r pwyllgor craffu fel y gall ymdrin â’r mater.
  6. Pwy yw pwy: Fel person sy’n ymwneud â chraffu mae angen i mi weld pwy sy’n gwneud beth fel y gallaf gysylltu â’r person hwnnw os oes angen i mi
  7. Ymwybyddiaeth o argymhellion: Fel person sy’n ymwneud â chraffu mae angen i mi weld argymhellion y pwyllgor craffu fel y gallaf ymateb os oes angen i mi
  8. Ymwybyddiaeth o effaith: Fel person y mae gwaith craffu’n effeithio arno mae angen i mi weld  effaith craffu fel y gallaf wybod yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i’m mewnbwn
  9. Ymwybyddiaeth o stori newyddion: Fel gohebydd/blogiwr mae angen i mi weld straeon craffu gwerth eu cofnodi fel y gallaf eu cyhoeddi

Rydym hefyd am wneud yn si?r bod yr hyn rydym yn ei ddarparu’n hygyrch, yn rhanadwy, yn hawdd ei ystyried ac yn ddwyieithog.

Felly rhowch wybod i ni a yw’r straeon hyn yn diwallu’ch anghenion. Neu rhowch wybod i ni os yw’ch stori ar goll.

Unwaith y byddwn yn meddwl bod eich straeon yn gywir, y cam nesaf yw ail-ddylunio sut rydym yn darparu’n gwybodaeth. Syml.

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.