Craffu ar gynlluniau rheoli perygl llifogydd Abertawe

Cynhelir cyfarfod y Gweithgor Craffu ar Reoli Perygl Llifogydd Lleol ddydd Iau (13 Tachwedd, 10am yn ystafell gyfarfod 3.4.1 y Ganolfan Ddinesig).

Ymgynghorir â’r Gweithgor ynghylch cynnydd y cyngor tuag at gyflawni Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Abertawe.

Mae hyn yn dilyn y gwaith craffu a wnaed ym mis Ionawr 2013. Cyfarfu’r Gweithgor yr adeg honno i ystyried Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ddrafft y cyngor a lluniwyd nifer o argymhellion, gan gynnwys:

  • llunio ‘ffeithlen’ gymunedol
  • gwella’r cyngor a’r cymorth i bobl sy’n ymdrin â materion lleol
  • gwella trefniadau arolygu, glanhau a chynnal a chadw draeniau a cheuffosydd
  • seminar i gynghorwyr ar berygl llifogydd wrth i’r strategaeth ddatblygu
  • mwy o ystyriaeth i faterion draeniad wrth reoli datblygu
  • sicrhau ymagwedd gorfforaethol at reoli perygl llifogydd
  • dysgu o brofiadau mewn ardaloedd eraill

Roedd aelodau’r gr?p hefyd yn teimlo y dylai craffu drafod y mater ymhellach ar ôl i gynlluniau manylach gael eu llunio a phan fyddai gwybodaeth ar gael am ardaloedd perygl penodol. Mae’r wybodaeth hon bellach ar gael a chaiff ei thrafod gan gynghorwyr ddydd Iau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd i’r cyfarfod, ffoniwch y Tîm Craffu ar 01792 636292 neu e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk

Diolch am ffoto: Flickr Creative Commons

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.