Beth nesaf i Banel Craffu’r BGLl?

Yn dilyn ei gyfarfod ym mis Medi, mae Panel Craffu’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol yn cwrdd ag aelodau Gr?p Gweithredol y Bwrdd Gwasanaeth Lleol (BGLl) sy’n weddill. Mae’r gr?p hwn yn cynrychioli partneriaid allweddol statudol y BGLl ac yn cyflawni gwaith manwl ar ran y BGLl ehangach. Mae’r aelodau sy’n dod yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Heddlu a Bwrdd Iechyd PABM.

Diben y drafodaeth fydd datblygu dealltwriaeth y panel o waith y BGLl ymhellach.

Cynhelir y cyfarfod am 4.30pm yn Ystafell Gyfarfod y Siambr, Canolfan Ddinesig. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod. Os ydych yn bwriadu dod, ffoniwch y Tîm Craffu ar 01792 636292.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.