Cynghorwyr Craffu yn edrych ar ymddygiad disgyblion a’r effaith ar berfformiad mewn ysgolion

Picture courtesy www.thewhocarestrust.org.uk

Picture courtesy www.thewhocarestrust.org.uk

Cyfarfu Panel Craffu Perfformiad Ysgolion gyda’r Rheolwr Mynediad i Ddysgu a’r Prif Seicolegydd Addysg ym mis Tachwedd i edrych ar faterion sy’n effeithio ar ymddygiad plant a phobl ifanc yn yr ysgol a sut gall hynny, yn ei dro, effeithio ar eu perfformiad yn yr ysgol. Cysylltodd y cynghorwyr ag ysgolion i baratoi ar gyfer y cyfarfod hwn, gan ofyn am eu barn ar y mater hwn a defnyddiwyd yr ymatebion hynny i lywio ein cwestiynau a’n trafodaeth.

Derbyniodd y panel gopi o’r ddogfen strategaeth ymddygiad, ‘Hyrwyddo Ymddygiad Cadarnhaol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Abertawe’ 2014 a chawsant wybod bod ymagwedd strategol Abertawe yn dechrau drwy gydnabod bod continwwm ymddygiad o ymddygiad da a derbyniol i ymddygiad arbennig o heriol. O fewn yr ymagwedd hon, mae cydnabyddiaeth fod rhai anawsterau ymddygiad yn gymhleth a bod angen dealltwriaeth a chyfranogiad amlasiantaeth i fynd i’r afael â nhw. Roedd y panel yn falch o weld fod yr ymagwedd strategol hon yn cynnwys ataliaeth, nodi ymyriad cynnar, gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni/gofalwyr a phobl ifanc/amrywiaeth eang o asiantaethau a chynnal continwwm priodol o ddarpariaeth sy’n diwallu anghenion. Roedd hefyd yn galonogol gweld mai’r brif athroniaeth yw cadw plant yn y brif ffrwd ond cael llwybr ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu cael mynediad i hyn. Yn ogystal â hyn, cytunodd y panel fod rhaid i ysgolion feithrin eu gallu i reoli mwy o blant yn y brif ffrwd.

Mae’r panel yn cydnabod bod Arfer Adferol yn dechneg dda ond mae angen mwy ar rai pobl ifanc, felly mae’n bwysig fod gan ysgolion amrywiaeth o ‘dechnegau’ wrth law i reoli ymddygiad.

Mae cynghorwyr yn deall bod gan Abertawe broblem gyda chyffuriau ac alcohol ac maent yn cydnabod mor bwysig yw edrych ar yr effeithiau ar y plentyn yn uniongyrchol a thrwy fyw mewn amgylchedd lle defnyddir cyffuriau ac alcohol. Cafodd y panel wybod fod gan Abertawe wasanaeth cyffuriau ac alcohol bach ar gyfer plant a phobl ifanc drwy brosiect cyffuriau SANDS a bod llawer mwy o alw am y gwasanaeth hwn na’r ddarpariaeth sydd ar gael.

Cytunodd y panel fod rhaid i ni, fel awdurdod, sicrhau y defnyddir y strategaeth ymddygiad yn gyson ar draws bob ysgol yn Abertawe ac y pwysleisir pwysigrwydd y cyngor a roddir a bod cysondeb yn cael ei fonitro gan y gwasanaeth gwella ysgolion.

Derbyniwyd sylwadau gan sawl ysgol i gasgliad o gwestiynau a anfonwyd atynt. O ganlyniad i hyn, cawsom drafodaeth fanwl am y fformiwla ariannu Anghenion Addysgol Arbennig a chawsom wybod bod y Gwasanaeth Addysg yn edrych ar hyn ar hyn o bryd. Felly rydym yn bwriadu ymchwilio mwy i hyn a’i gynnwys fel eitem ar ein rhaglen waith yn y dyfodol. Roedd yr wybodaeth gan ysgolion yn ddefnyddiol iawn a hoffem ddiolch i’r ysgolion hynny a gymerodd ran am eu hamser a’u cymorth.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.