Cynghorwyr yn edrych ar barcio yn Abertawe

3022238883_27aac2f87b_z

Cyfarfu’r panel ddwywaith yn y deufis diwethaf i edrych ar y ddarpariaeth gwasanaethau parcio yn Abertawe. Roedd gan y panel lawer o ddiddordeb yn y gwaith meddwl trwy systemau sy’n cael ei wneud ar draws y gwasanaeth, yn arbennig y gwaith sy’n ymwneud â galluogi pobl i dalu’n uniongyrchol am Hysbysiadau o Dâl Cosb. Roeddem hefyd yn falch o glywed bod yr hysbysiadau hyn wedi cael eu symleiddio ar gyfer defnyddwyr.

Hysbyswyd y panel fod y Gwasanaeth Parcio yng nghanol cyfnod o aildrefnu a ddylai gyflwyno mwy o bresenoldeb gorfodi a mwy o hyblygrwydd nag o’r blaen.  Roedd aelodau’n awyddus i weld y gwelliant hwn ond roeddent yn teimlo y byddai’r gwasanaeth yn elwa o fwy o Swyddogion Gorfodi o hyd, ond roeddem hefyd yn sylweddoli fod niferoedd staff yn seiliedig ar lefel yr incwm. Hysbyswyd cynghorwyr y bydd y Cerbyd Gorfodi Parcio ar waith yn fuan ac y byddai’n arbennig o ddefnyddiol gyda gwaith a dargedir.

Credir yn eang nad oes digon o feysydd parcio yng nghanol y ddinas, nid oedd y panel yn cytuno gan eu bod yn credu bod digon o leoedd parcio ond nid ydynt o reidrwydd yn y lle cywir. Mae’r panel yn cydnabod mai ychydig iawn a ellir ei wneud i newid hynny ond roeddent yn teimlo y byddai strategaeth arwyddion dda yn helpu i fynd i’r afael â’r safbwynt hwn. Byddai defnyddio byrddau negeseuon electronig hefyd yn lliniaru ar rai o’r problemau, yn arbennig yn ystod amseroedd prysur, drwy gyhoeddi ‘negeseuon amser cyfredol’ i yrwyr sy’n nodi pan allai meysydd parcio fod yn llawn a lle gellir dod o hyd i leoedd.

Tynnwyd sylw at broblemau ar loriau isaf maes parcio’r Stryd Fawr, yn enwedig o ran ofn troseddau.  Canfu’r panel mai dau lawr uchaf y maes parcio yn unig a ddefnyddir yn gyson a hynny oherwydd materion diogelwch canfyddedig yn ogystal â’i leoliad llai cyfleus. Teimlai aelodau y dylid ystyried edrych am ddefnyddiau gwahanol ar gyfer yr ardal hon.

Roedd y panel yn falch o glywed bod pob maes parcio ar draws Abertawe bellach wedi cael peiriannau tocynnau newydd sy’n gallu casglu a chynhyrchu mwy o ddata rheoli a galluogi polisïau prisiau mwy hyblyg o bosib.

Hysbyswyd y panel o rai o’r rhesymau y tu ôl i brosesau penodol a gaiff eu camddeall yn aml gan y cyhoedd, er enghraifft, pam rydym yn gofyn am rif cofrestru’r car pan fyddwch yn prynu tocyn maes parcio. Nid rhoi terfyn ar rannu tocynnau yw diben hyn, ond er mwyn gallu olrhain a chysylltu â’r prynwr petai unrhyw broblemau yn codi, megis gyda’r peiriant talu. Teimlai’r panel ei bod yn bwysig cyfathrebu manylion o’r fath i’r cyhoedd yn ehangach.

Cydnabuwyd yn gyffredinol bod mannau ‘problemus’ penodol lle mae materion parcio’n codi’n rheolaidd, er enghraifft, yn Stadiwm Liberty ar ddiwrnodau gêm. Rydym yn credu y gellid ymdrin â’r rhain drwy weithio gyda’r cynghorydd/cynghorwyr lleol i dargedu gwaith yn yr ardaloedd hyn.

Roedd argymhellion y panel i aelod y cabinet a godwyd o’r gwaith hwn yn cynnwys:

  1. Datblygu strategaeth arwyddion ar gyfer meysydd parcio.
    2. Ystyried defnydd gwahanol ar gyfer pedwar llawr isaf maes parcio aml-lawr y Stryd Fawr.
    3. Defnyddio polisi prisiau mwy hyblyg ar gyfer codi tâl mewn meysydd parcio gan fod gennym beiriannau tocynnau mwy hyblyg.
    4. Mae mwy o gyhoeddusrwydd o amgylch y rhesymau dros rai taliadau a phrosesau penodol.
    5. Ystyried mwy o waith a dargedir gyda chynghorwyr lleol o amgylch ardaloedd problemus, gan gynnwys, er enghraifft, Stadiwm Liberty ar ddiwrnodau gêm.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.