Oes gennych chi gwestiwn i’r Cynghorydd Christine Richards, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc?

Bydd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Christine Richards, yn ymddangos gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 22 Rhagfyr am sesiwn holi ac ateb. Mae’r pwyllgor yn croesawu’ch syniadau ar gyfer cwestiynau.

Cllr. Christine Richards

Cllr. Christine Richards

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae portffolio Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc y Cynghorydd Richards yn cynnwys y meysydd cyfrifoldeb canlynol:

Bydd y pwyllgor yn archwilio’r gwaith y mae wedi’i wneud yn y rôl hon, gan ystyried blaenoriaethau, camau gweithredu, cyflawniadau ac effaith.

Oes rhywbeth rydych chi’n meddwl y dylai’r pwyllgor ei ofyn iddi? Bydd y pwyllgor yn ystyried unrhyw awgrymiadau a dderbynnir cyn 22 Rhagfyr wrth lunio’i strategaeth holi a gofynnir y rhai allweddol i’r Cynghorydd Richards.

Anfonwch eich syniadau atom trwy wneud sylw ar y blog hwn, trwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu drydar @craffuabertawe.

Cynhelir cyfarfod y pwyllgor ddydd Llun 22 Rhagfyr am 4.30pm yn Ystafell Bwyllgor 1 yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod iddo.

Caiff crynodeb o bob sesiwn, gan gynnwys  cwestiynau’r cyhoedd sy’n cael eu holi, a barn y pwyllgor, eu cynnwys mewn llythyr at yr aelod cabinet perthnasol. Caiff y ddau lythyr hyn a’r ymatebion gan Aelodau’r Cabinet eu cyhoeddi mewn agendâu Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn y dyfodol.

Mae hyn yn rhan o gyfres o Sesiynau Holi Aelod y Cabinet a gynhelir yn ystod y flwyddyn.  Mae’r pwyllgor yn cwrdd bob 4 wythnos.

Amserlen ar gyfer sesiynau’r dyfodol:

 

Pwyllgor Aelod(au) Cabinet
19 Ionawr 2015  

  • Y Cyng. Jane Harris – Gwasanaethau Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn
  • Y Cyng. Mark Child – Lles a Dinas Iach

 

16 Chwefror 2015
  • Y Cyng. Mark Thomas – Yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
  • Y Cyng. Robert Francis-Davies – Menter, Datblygu ac Adfywio

 

16 Mawrth 2015
  • Y Cyng. David Hopkins – Cymunedau a Thai
  • Y Cyng. Will Evans – Gwrthdlodi

 

13 Ebrill 2015
  • Y Cyng. Clive Lloyd – Trawsnewid a Pherfformiad

 

 

Llun: Dinas a Sir Abertawe

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.