Bydd Aelod y Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jennifer Raynor, yn ymddangos gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 22 Rhagfyr ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Mae’r pwyllgor yn croesawu’ch syniadau ar gyfer cwestiynau.
Mae portffolio Addysg y Cynghorydd Raynor yn cynnwys y meysydd cyfrifoldeb canlynol:
- Cynhwysiad a Chefnogi Dysgwyr
- Gwella Ysgolion
- Cynllunio ac Adnoddau
- Ysgolion
- Dinas Dysg
- NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant)
- Ein Rhanbarth ar Waith
- Trefniadaeth a Pherfformiad Ysgolion
- AoS
- Siarter Addysg
- Elfennau Arweiniol Abertawe Gynaliadwy
Bydd y pwyllgor yn archwilio’r gwaith y mae wedi’i wneud yn y rôl hon, gan ystyried blaenoriaethau, camau gweithredu, cyflawniadau ac effaith.
Oes rhywbeth rydych chi’n meddwl y dylai’r pwyllgor ei ofyn iddi? Bydd y pwyllgor yn ystyried cwestiynau a dderbynnir cyn 22 Rhagfyr wrth lunio’i strategaeth holi a gofynnir y rhai allweddol i’r Cynghorydd Raynor.
Anfonwch eich syniadau atom trwy wneud sylw ar y blog hwn, trwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu drydar @craffuabertawe.
Cynhelir cyfarfod y pwyllgor ddydd Llun 22 Rhagfyr am 4.30pm yn Ystafell Bwyllgor 1 yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod iddo.
Caiff crynodeb o bob sesiwn, gan gynnwys cwestiynau’r cyhoedd sy’n cael eu holi, a barn y pwyllgor, eu cynnwys mewn llythyr at yr aelod cabinet perthnasol. Caiff y ddau lythyr hyn a’r ymatebion gan Aelodau’r Cabinet eu cyhoeddi mewn agendâu Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn y dyfodol.
Mae hyn yn rhan o gyfres o Sesiynau Holi Aelod y Cabinet a gynhelir yn ystod y flwyddyn. Mae’r pwyllgor yn cwrdd bob 4 wythnos.
Amserlen ar gyfer sesiynau’r dyfodol:
Committee |
Cabinet Member(s)
|
19 Ionawr 2015 |
|
16 Chwefror 2015 |
|
16 Mawrth 2015 |
|
13 Ebrill 2015 |
|
Llun: Dinas a Sir Abertawe
Leave a Comment