Galw am Dystiolaeth: Panel Ymchwiliad Craffu Diwylliant Corfforaethol

5351622529_5d4c782817_z

Sefydlwyd panel ymchwiliad craffu newydd sy’n edrych ar ffyrdd y gall Cyngor Abertawe wella ei ddiwylliant corfforaethol gan gynnwys sut gallwn wella ein hagwedd ‘gallu gwneud’.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y panel yn edrych ar nifer o agweddau ar ddiwylliant corfforaethol a sefydliadol a bydd yn ceisio ateb y cwestiwn ‘sut gall Cyngor Abertawe sicrhau bod cyflwyno gwasanaeth bob amser yn cael ei gefnogi gan ddiwylliant gallu gwneud?’

Mae Cynghorwyr wedi dewis edrych ar y pwnc hwn, oherwydd:
– Mae meddu ar y diwylliant corfforaethol cywir yn hanfodol os yw’r cyngor yn mynd i fynd i’r afael yn effeithiol â rhai o’r heriau mae’n eu hwynebu, er enghraifft, rheoli galw, llai o adnoddau a disgwyliadau uwch y cyhoedd.
– Mae ymrwymiadau polisi’r cyngor yn nodi’r angen i greu diwylliant gallu gwneud.
– Mae’r cyngor am i ddiwylliant staff ganolbwyntio mwy ar rymuso, cyfrifoldeb personol, blaengaredd a chydweithio. Mae rhaglen flaengaredd wedi’i sefydlu i helpu i gyflawni’r nodau hyn.
– Mae hwn yn bwnc anodd a heriol – mae dysgu o lwyddiannau eraill yn hanfodol.

Y prif ymholiadau fydd:
1. Beth yw diwylliant gallu gwneud? Sut byddwn yn gwybod beth ydyw?
2. Beth yw manteision diwylliant gallu gwneud? Sut gellir eu cyflawni?
3. Beth mae sefydliadau llwyddiannus wedi’i wneud i gyflawni diwylliant gallu gwneud?
4. Sut rydym yn gwybod pa mor flaengar ydym ni?
5. Sut gallwn greu amgylchedd lle mae mwy o bobl yn teimlo’n rhydd i fod yn flaengar, i wneud y pethau cywir ar gyfer ein cwsmeriaid yn y ffordd gywir?
6. Sut gall Cynghorwyr gyfrannu at ddiwylliant gallu gwneud?

Sut mae rhoi’ch barn…
Anogir grwpiau neu unigolion â diddordeb i gyflwyno’u tystiolaeth ysgrifenedig trwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk.  Efallai y bydd y Panel yn cysylltu â chi i drafod eich tystiolaeth. Bydd yr holl dystiolaeth a gyflwynir yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r ymchwiliad. Os nad ydych am i’ch tystiolaeth gael ei chyhoeddi, nodwch hynny’n glir.

 

Clod llun: https://flic.kr/p/99UsVX

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.