Craffu ar gynigion y gyllideb

Bydd y Panel Perfformiad Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid yn cwrdd ar 7 Ionawr er mwyn trafod cynigion y gyllideb ar gyfer 2015/16-2017/18.

Bydd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Gyllid ac Adnoddau yn cwrdd â’r panel er mwyn trafod y cynigion.

Rôl y panel yw cwestiynu a herio agweddau o’r gyllideb er mwy ei helpu i greu barn a thynnu ar gasgliadau ac, os yw’n briodol, gwneud argymhellion ar gynigion y gyllideb.

Bydd sylwadau’r panel yn cael eu bwydo yn ôl i’r Arweinydd er mwyn iddo allu eu hystyried wrth ddatblygu cynigion terfynol manwl y gyllideb. Yn dilyn cyhoeddiad cynigion terfynol y gyllideb bydd y panel yn cwrdd eto er mwyn ystyried y rhain cyn cyfarfodydd cyllideb y Cabinet a’r cyngor ym mis Chwefror.

Cynhelir y cyfarfod am 12.30pm yn Ystafell Bwyllgor 2, Canolfan Ddinesig ar 7 Ionawr. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Ffoniwch y Tîm Craffu ar 636292 neu e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk os ydych yn bwriadu dod.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.