Beth sydd nesaf i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid?

homework_1Bydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid yn cyfarfod am 1.30pm ddydd Mercher 14 Ionawr (Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig).

Ar yr agenda’r wythnos hon yw’r sesiwn holi ac ateb gyda’r Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Addysg. Diben y sesiwn hon yw canolbwyntio’n benodol ar gyflawni targedau arbedion a’u heffaith ar gyfer 2014/15 yn y portffolio addysg.

Bydd y panel hefyd yn trafod adroddiadau monitro cyllideb a pherfformiad yr 2il chwarter.

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Os hoffech ddod, rhowch wybod i’r Tîm Craffu trwy ymateb i’r blog hwn, e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu ffonio 01792 636292.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.