Galw am Dystiolaeth: Ymchwiliad Craffu Llywodraethu Ysgolion

486378290_f8ffa56cb5_z

Mae panel ymchwilio craffu newydd wedi’i sefydlu sy’n edrych ar ffyrdd y gellir cefnogi llywodraethwyr ysgol yn well i sicrhau bod ysgolion yn perfformio’n dda ac yn gwella.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y panel yn ymchwilio i sawl agwedd ar waith llywodraethwyr ysgol er mwyn ceisio ateb y cwestiwn ‘Sut gall y cyngor sicrhau bod llywodraethwyr ysgol yn darparu her effeithiol i’w hysgolion?

Mae cynghorwyr wedi dewis edrych ar y testun hwn am y rhesymau canlynol:

Mae llywodraethwyr ysgol yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod ysgolion yn perfformio’n dda.  Maent yn bobl sydd am wneud gwahaniaeth i addysg plant, a dônt o bob cefndir.  Nid yw llywodraethwyr fel arfer yn bobl broffesiynol ym maes addysg ac mae angen y gefnogaeth iawn arnynt os ydynt yn mynd i ddarparu’r math cywir o her yn eu hysgolion.

Mae’r cyngor yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi llywodraethwyr ysgol ac mae’r panel am weld a ellir gwella’r gefnogaeth hon.  Maent am glywed barn amrywiaeth eang o bobl fel y gallant gynnig newidiadau ymarferol a all wella addysg mewn ysgolion yn Abertawe.

Llwybrau Ymholi

Bydd y panel yn edrych yn benodol ar y cwestiynau canlynol:

  1. Rôl: Ymddengys fod diffyg eglurder ynghylch rôl llywodraethwyr ysgol. Sut gellir mynd i’r afael â hyn?
  2. Sgiliau: Os yw llywodraethwyr yn mynd i herio’n effeithiol, mae angen hyder a’r sgiliau iawn arnynt. Oes ganddynt y sgiliau hyn?  Sut gall hyfforddiant a datblygiad gael eu gwella?
  3. Y Cymysgedd Iawn: Mae diffyg gwahanol fathau o lywodraethwr mewn llawer o ysgolion, er enghraifft, rhiant-lywodraethwyr neu bobl â phrofiad busnes. Beth yw’r cymysgedd y dylai cyrff llywodraethu fod yn anelu ato?  Sut gall y cyngor helpu cyrff llywodraethu i lenwi’r bylchau?
  4. Diwylliant yr ysgol: Os yw llywodraethwyr yn mynd i fod yn effeithiol, rhaid bod gan ysgolion ddiwylliant sy’n cefnogi her. Mae’r berthynas rhwng llywodraethwyr a phenaethiaid yn arbennig o bwysig yn hyn o beth.  Sut gallwn sicrhau bod y diwylliant hwn yn iawn?
  5. Ymgynghorwyr Her: Mae’r berthynas rhwng llywodraethwyr ysgol ac ymgynghorwyr her yn bwysig. A ellir gwella hyn?
  6. Gwybodaeth: I fod yn effeithiol, mae angen yr wybodaeth iawn ar lywodraethwyr, wedi’i darparu yn y ffordd iawn. A yw hyn yn cael ei ddarparu?  Sut gellir ei wella?
  7. Recriwtio: Nodwyd bod prinder llywodraethwyr yn broblem. Sut gellir cynyddu niferoedd llywodraethwyr ysgol?

Sut mae rhoi’ch barn…

Anogir grwpiau neu unigolion â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r panel ymchwilio drwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk.  Efallai y bydd y Panel yn cysylltu â chi i drafod eich tystiolaeth. Bydd yr holl dystiolaeth a gyflwynir fel arfer

Foto:  https://flic.kr/p/JYPjA

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.