Oes gennych gwestiwn i aelodau’r cabinet?

Mae Pwyllgor Rhaglen Graffu’r cyngor yn galw cabinet y cyngor i gyfrif ac yn trefnu sesiynau holi ac ateb gyda phob aelod o’r cabinet yn ystod y flwyddyn.

813966437_11c28ee414_z

 

 

 

 

 

Bydd pob sesiwn holi ac ateb yn archwilio’r gwaith y mae aelodau’r cabinet wedi’i wneud yn eu rôl, gan ystyried blaenoriaethau, gweithredoedd, cyflawniadau ac effaith.

Oes rhywbeth rydych chi’n meddwl y dylai’r pwyllgor ei ofyn iddynt?

Anfonwch eich syniadau atom trwy wneud sylw ar y blog hwn, trwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu drydar @craffuabertawe.

Bydd y pwyllgor yn ystyried unrhyw awgrymiadau wrth ddatblygu’i strategaeth holi, a gofynnir y cwestiynau allweddol i aelodau perthnasol y cabinet pan fyddant yn ymddangos gerbron y pwyllgor.

Mae’r cabinet yn cynnwys yr arweinydd, y Cynghorydd Rob Stewart, a 9 cynghorwr ychwanegol a benodir gan yr arweinydd, y dyrennir cyfrifoldebau penodol iddynt.

Dechreuodd Arweinydd y Cyngor sesiynau eleni, gan ymddangos gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 13 Gorffennaf.

Mae aelodau’r cabinet i fod i ymddangos fel a ganlyn:

Pryd:                       Pwy:

10 Awst 2015:         Y Cyng. Christine Richards (Dirprwy Arweinydd) – Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

14 Medi 2015:          Y Cyng. Mark Child – Lles a Dinas Iach Jennifer Raynor – Addysg

12 Hydref 2015:      Y Cyng. Jennifer Raynor – Addysg

9 Tachwedd 2015:   Y Cyng. Clive Lloyd – Trawsnewid a Pherfformiad

14 Rhagfyr 2015:     Y Cyng. Rob Stewart – Cyllid a Strategaeth

11 Ionawr 2016:       Y Cyng. Will Evans – Gwrthdlodi

8 Chwefror 2016:     Y Cyng. Jane Harris – Gwasanaethau i Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn

14 Mawrth 2016:     Y Cyng. Andrea Lewis – Gwasanaethau’r Genhedlaeth Nesaf

11 Ebrill 2016:          Y Cyng. Robert Francis-Davies – Menter, Datblygu ac Adfywio

9 Mai 2016:               Y Cyng. David Hopkins – Yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth

Mae cyfarfodydd y pwyllgor yn agored i’r cyhoedd ac mae croeso i chi eu mynychu. Cynhelir pob cyfarfod yn Ystafell Bwyllgor 3A yn Neuadd y Ddinas, Abertawe, gan gychwyn am 4.30 pm (ac eithrio 8 Chwefror – Ystafell Bwyllgor 1, y Ganolfan Ddinesig.

Caiff crynodeb o bob sesiwn, gan gynnwys cwestiynau a holir gan y cyhoedd, ymatebion, a barn y pwyllgor, eu cynnwys mewn llythyr at yr aelod cabinet perthnasol. Cyhoeddir y llythyrau a’r ymatebion hyn gan aelodau’r cabinet ar wefan y cyngor ac yn agendâu Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn y dyfodol.

Llun: https://flic.kr/p/2eVMS6

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.