Beth fu effaith yr ymchwiliad craffu i Fewnfuddsoddi ar gyfer Abertawe?

580_Image_Welfare_Reform

Cyfarfu Panel Ymchwilio Craffu Mewnfuddsoddi ym mis Gorffennaf i edrych ar sut mae ei adroddiad wedi effeithio ar fewnfuddsoddi yn Abertawe a Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Dywedwyd wrth y panel bod ei adroddiad wedi darparu ffocws ar gyfer sut dylai Abertawe a’r Dinas-ranbarthau ehangach gael eu hyrwyddo a’u cyflwyno i ddarpar fuddsoddwyr.Mae’r argymhellion yn cynrychioli elfennau allweddol proses effeithiol ar gyfer sefydlu a gweithredu ymateb a chefnogaeth ar gyfer mewnfuddsoddi.

Hysbyswyd y panel y cafwyd sawl newid i Fwrdd Dinas-ranbarth Bae Abertawe ers yr adroddiad ymchwilio, gan gynnwys penodi Syr Terry Matthews yn Gadeirydd y Bwrdd, a bod ymagwedd newydd at ddatblygu gweithgaredd trawsnewid ar draws y Dinas-ranbarth, gan gynnwys nodi 5 piler momentwm economaidd – Syniadau, Sgiliau, Cyfalaf, Cyfleoedd ac Isadeiledd.

Roedd cynghorwyr yn falch o glywed

  • bod Bwrdd y Dinas-ranbarth wedi lansio hunaniaeth brand deuol ar gyfer gweithgareddau marchnata a chyfathrebu allweddol ac yn benodol, croesawyd y brandio Abertawe: Dinas Arloesedd, yr oedd y panel yn teimlo ei fod yn berthnasol ac yn gyfredol i Abertawe;
  • a bod holl bartneriaid y Dinas-ranbarth yn cytuno bod angen canol dinas cadarn yn y rhanbarth, ac Abertawe yw hwnnw.

Pwysleisiodd y Panel bwysigrwydd cyfleu beth a sut rydym yn ei wneud o ran mewnfuddsoddi. Teimlwyd ei bod hi’n hanfodol rhoi negeseuon mwy cadarnhaol ar led.Roedd y panel hefyd yn awyddus i sicrhau bod yr holl ddatblygiadau yn Abertawe a’r Dinas-ranbarth yn gynaliadwy, hyd yn oed os bydd Cadeirydd y Bwrdd yn gadael y rôl.Roedd y panel hefyd wedi ystyried bod pwysigrwydd mewnfuddsoddi yn un o’r prif ysgogwyr i ddenu swyddi ac felly i fynd i’r afael â thlodi, a bod yr adnodd a ddyrennir i’r rôl hon o’r pwys mwyaf.

Roedd Cynghorwyr yn falch o glywed bod 6 o’r 12 argymhelliad wedi’u rhoi ar waith a’r 6 arall yn ymwneud yn benodol â chreu rhwydwaith cefnogi effeithiol ac adnoddau i helpu i sbarduno ymholiadau mewnfuddsoddi ac ymateb iddynt. Mae’r panel yn bwriadu edrych ar y 6 argymhelliad sy’n weddill ymhen 6 i 9 mis.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.