Cefnogi llywodraethwyr ysgol: rhai egwyddorion arfer da

governors

Mae gan lywodraethwyr rôl bwysig mewn ysgolion. Maen nhw yno i sicrhau bod yr ysgol yn perfformio fel y dylai wneud. Weithiau, fodd bynnag, mae cyfarfodydd llywodraethwyr yn gallu bod yn ‘rhy gartrefol’ ac mae llywodraethwyr yn gallu derbyn popeth mae’r pennaeth yn ei ddweud ar ei olwg. Beth gellir ei wneud i sicrhau bod llywodraethwyr yn chwarae eu rhan wrth godi safonau mewn ysgolion?  Sut gall y cyngor sicrhau bod llywodraethwyr yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnyn nhw?  Dyma’r cwestiynau mae cynghorwyr craffu’n eu gofyn yn Abertawe.

Gwahoddodd cynghorwyr craffu dair ysgol i roi tystiolaeth am sut roedden nhw’n cefnogi llywodraethwyr. Mae Ysgol Gynradd yr Hafod, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt wedi’u hamlygu fel bod ganddynt arfer da yn y ffordd roedden nhw’n cefnogi llywodraethwyr.

Cafwyd cyflwyniad gan bob un – rhoddodd Ysgol Gynradd yr Hafod ei thystiolaeth fel fideo.

Dyma rai o’r egwyddorion arfer da a rannwyd gan yr ysgolion:

  • Byddwch yn glir am y nodau a’r gwerthoedd a rennir sy’n dod â phawb at ei gilydd – mae her adeiladol yn bosibl pan fo pawb eisiau’r un peth
  • Natur agored a thryloyw ar bob adeg fel bod llywodraethwyr yn gwybod yr hyn sy’n digwydd a bod ganddyn nhw fynediad i wybodaeth os oes ei hangen arnyn nhw
  • Cynhwyswch ddisgyblion yn y corff llywodraethu – gallan nhw roi cyflwyniadau yng nghyfarfodydd llywodraethwyr er enghraifft
  • Datblygu rolau arbennig i lywodraethwyr gan roi cyfrifoldeb iddyn nhw dros faterion penodol neu drwy ‘gyfeillio’ llywodraethwyr â blwyddyn ysgol benodol
  • Gweithio agos rhwng staff a llywodraethwyr ar bob lefel – nid cyfrifoldeb y pennaeth yn unig yw gweithio gyda llywodraethwyr

Meddai’r Cynghorydd Fiona Gordon, pennaeth yr ymchwiliad,

“Rydyn ni wedi clywed bod yr ysgolion hyn yn gwneud gwaith arbennig o dda a dyna pam roedden ni eisiau eu gwahodd i ddweud wrthym ni amdano fe. Rydyn ni eisiau i’r arfer da hwn gael ei rannu fel bod pob ysgol yn gallu elwa ar ffyrdd gwell o wneud pethau.

Ar ddiwedd y dydd, y plant mewn ysgolion fydd yn elwa pan fo llywodraethwyr ysgol yn gwneud gwaith da a dyna pam ein bod ni i gyd yma.”

Casglwyd y syniadau hyn fel rhan o ymchwiliad parhaol i lywodraethu ysgolion sy’n cael ei gynnal gan y Panel Ymchwilio Craffu Llywodraethu Ysgolion. Nod yr ymchwiliad yw ymchwilio i ‘sut gall y cyngor sicrhau bod llywodraethwyr ysgolion yn darparu her effeithiol i’w hysgolion?’

Maen nhw wedi clywed gan sefydliadau llywodraethwyr, arolygwyr ysgolion, gweithwyr proffesiynol gwella ysgolion a swyddogion y cyngor.

Disgwylir i’r panel orffen casglu tystiolaeth ym mis Tachwedd pan fydd yn cyfarfod ag Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg. Mae’r adroddiad terfynol, gan gynnwys argymhellion i’r Cabinet, i’w gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Os hoffech fynegi’ch barn, dilynwch y ddolen hon.

Os hoffech weld holl bapurau’r ymchwiliad hyd yn hyn, dilynwch y ddolen hon i dudalen cyhoeddiadau Craffu Abertawe.

Llunhttps://flic.kr/p/dRm6T5

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.