Deg ffordd i wella gwasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol

Photo credit: City & County of Swansea

Photo credit: City & County of Swansea

Mae gwella gwasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol yn un o flaenoriaethu Cynghorwyr Craffu yn Abertawe. Mae cynghorwyr newydd gyhoeddi eu hadroddiad ar gynhwysiad addysg sydd â phwyslais penodol ar y gwasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol. Dewiswyd y pwnc ar gyfer yr adolygiad yn wreiddiol gan fod cynghorwyr am sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei botensial llawn drwy wneud yn si?r y gallant gael mynediad i addysg hyd yn oed os nad ydynt yn gallu mynd i ysgol brif ffrwd. Roedd cynghorwyr hefyd yn dymuno edrych ar wasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol yn lleol ar ôl darllen adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru a ddaeth i’r casgliad bod arferion anghyson mewn unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru a’u bod yn cael eu gweld yn aml fel ôl-ystyriaeth o ran blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

Siaradodd Cynghorwyr Craffu â nifer o bartïon â diddordeb, gan gynnwys penaethiaid o Ysgolion Cyfun yr Esgob Gore a Phentrehafod ac Ysgol Gynradd y Clâs, Gyrfa Cymru Gorllewin, y Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid, Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe a’r gwasanaethau cymdeithasol.

Defnyddiodd y cynghorwyr arolwg diweddar gan Estyn – Addysg Heblaw yn yr Ysgol: Arolwg Arfer Da – fel sail i asesu’r holl dystiolaeth a gasglwyd yn ystod y cyfnod ymchwilio ac i helpu i ffurfio penderfyniadau ac argymhellion y panel.

Cwblhawyd yr ymchwiliad yn gynnar ym mis Hydref ac mae’n nodi’r deg argymhelliad canlynol. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys 20 o argymhellion a gaiff eu cyflwyno i Gabinet y Cyngor ar 19 Tachwedd.

  1. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol, ysgolion a’r gwasanaeth addysg heblaw yn yr ysgol ddiwallu anghenion y gr?p hwn o blant diamddiffyn yn well.
  2. Mae angen gwella cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol.
  3. Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar ailintegreiddio pobl ifanc yn ôl i’r ysgol.
  4. Mae angen i Bwyllgor Rheoli’r Uned Cyfeirio Disgyblion annog gwelliant yn y gwasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol.
  5. Mae angen i staff Unedau Cyfeirio Disgyblion fod yn rhan o hyfforddiant a datblygiad prif ffrwd.
  6. Mae angen ymagwedd gyfannol dechrau a diwedd dydd ar gyfer y gr?p hwn o blant a phobl ifanc.
  7. Gwella ansawdd gwasanaethau ar gyfer y gr?p hwn o blant a’u deilliannau.
  8. Gwella gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc 16+ oed sy’n trosglwyddo i oedolaeth.
  9. Sicrhau bod llais y disgybl yn cael ei glywed ar gyfer y gr?p hwn o blant a phobl ifanc diamddiffyn.
  10. Gwella adeiladwaith ac addasrwydd yr adeiladau a ddefnyddir i addysgu’r plant hynny sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.