Gwaith pawb yw datblygu diwylliant ‘gallu gwneud’

5351622529_5d4c782817_z

Roedd cyfarfod Cabinet y cyngor ar 15 Hydref yn trafod canfyddiad ac argymhellion a ddeilliodd o’r ymchwiliad i ddiwylliant corfforaethol y cyngor yn Abertawe. Ymatebodd y Cabinet i bob argymhelliad a oedd yn yr adroddiad a chytuno ar bob un o’r 19.  Bydd nawr yn llunio cynllun gweithredu ar gyfer bwrw ymlaen â nhw dros y misoedd nesaf.

Dewiswyd craffu’r pwnc hwn oherwydd, fel cyngor, mae ein diwylliant corfforaethol yn sail i bopeth rydyn ni’n ei wneud, o sut rydyn ni’n cynnwys ein dinasyddion ac yn darparu gwasanaethau i sut rydyn ni’n trin ein staff a sut rydyn ni’n datblygu fel sefydliad.

Cafodd y panel nad oes un diwylliant cyffredinol yn y cyngor. Yn hytrach, mae nifer o ddiwylliannau a rennir sy’n gweithredu yn y cyngor i’n rhwymo fel un sefydliad.   Mae’r heriau a wynebir gan doriadau i gyllidebau’r cyngor a goblygiadau ad-drefnu’r sector cyhoeddus yn fygythiad go iawn i syniad diwylliant a rennir.  Felly, fel cynghorwyr, rheolwyr a staff, mae gennym gyfrifoldeb a rennir i ymateb i’r heriau hyn trwy ddatblygu ‘diwylliant gallu gwneud’ sy’n sicrhau bod dinasyddion Abertawe’n parhau i gael gwasanaeth gorau posibl y cyngor.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad hwn neu am graffu’n fwy cyffredinol, ewch i’n tudalennau gwe yn www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.