Cynghorwyr craffu’n hyrwyddo Hawliau Plant yn Abertawe

IMG_1033[1]

Aeth cynghorwyr craffu yn Abertawe i seminar a oedd yn ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a’u rôl wrth hyrwyddo hawliau plant yn Abertawe.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y dylid seilio’r holl waith gyda phlant a phobl ifanc ar CCUHP. Yn Abertawe ym mis Medi 2013, cytunwyd gwreiddio CCUHP fel rhan o Fframwaith Polisi’r cyngor. Rhoddwyd dyletswydd ar y cabinet i dalu ‘sylw dyledus’ i CCUHP wrth wneud penderfyniadau ar:

  • Lunio polisïau neu strategaethau newydd ar gyfer yr Awdurdod
  • Adolygu neu ddiwygio polisïau neu strategaethau presennol yr Awdurdod
  • Datblygu, cadarnhau neu ddiwygio penderfyniadau gweithredol sydd yng nghylch gwaith y Cabinet

Pam mae angen hawliau ychwanegol ar blant?

  • Maent yn fwy tebygol o gael eu cam-drin a’u hecsbloetio
  • Isafswm oedrannau cyfreithiol
  • Gallant fod yn hollol ddibynnol ar oedolion
  • Efallai na fydd oedolion yn gweithredu er lles plant bob amser
  • Cydbwysedd p?er yn y gymdeithas ac fel defnyddwyr gwasanaeth
  • Mae diffyg llais gan blant a phobl ifanc yn aml

Beth yw ein rôl?

Gall deiliaid dyletswyddau gynnwys:

Rhiant neu warcheidwad, aelodau eraill o’r teulu, athrawon, meddygon, gweithwyr cymdeithasol, llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU.

Dyma enghraifft bosib o hyn:

Cyrhaeddiad Disgyblion: Mae gan bob plentyn yr hawl i ddysgu a mynd i’r ysgol. Dylid annog plant i gyrraedd y lefel uchaf o addysg y gallant. Gallai’r canlynol fod yn ddeiliaid dyletswyddau yn y cyd-destun hwn:

  • Mae’r llywodraeth yn gyfrifol am sicrhau bod digon o ysgolion ar gyfer plant a bod y cwricwlwm yn berthnasol iddynt hwy a’u bywydau.
  • Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am gynnig mynediad i addysg.
  • Mae’r ysgol yn gyfrifol am sicrhau amgylchedd diogel lle gall plant ddysgu.
  • Mae’r teulu yn gyfrifol am sicrhau bod y plentyn yn cyrraedd yr ysgol ar amser, bod ganddo ddillad, ei fod wedi cael bwyd, a’i fod yn barod ar gyfer gwersi.
  • Gall plant hefyd fod yn ddeiliaid dyletswyddau; maent yn gyfrifol am sicrhau nad ydynt yn tarfu ar blant eraill, nac aflonyddu arnynt, wrth iddynt geisio dysgu.

Beth yw rôl cynghorwyr craffu fel deiliaid dyletswyddau?

Mae gan Bwyllgor Rhaglen Graffu’r cyngor ddiddordeb penodol yn y modd y rhoddwyd y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc ar waith ar draws y cyngor, a’i effaith. Bu cynnig yn y seminar i ddatblygu ymagwedd er mwyn galluogi craffu i weithredu fel hyrwyddwyr hawliau plant wrth asesu gwaith y cyngor, ac i ddatblygu strategaethau holi er mwyn galluogi hyn.

Yn seiliedig ar egwyddorion arweiniol CCUHP, defnyddir y cwestiynau canlynol i fesur sylw dyledus yn yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb:

  1. A luniwyd/cynlluniwyd y gwaith y creffir arno er lles plant a phobl ifanc?
  2. A yw’r gwaith y creffir arno’n:
    1. Meithrin perthnasoedd da rhwng grwpiau gwahanol
    2. Datblygu cyfle cyfartal rhwng grwpiau gwahanol
    3. Dileu/lleihau gwahaniaethu ac/neu eithrio cymdeithasol? Sut mae’n gwneud hyn?
  3. A yw’r gwaith y creffir arno’n cynnwys darpariaeth ddigonol i ddiogelu’r rhai y mae’n berthnasol iddynt?
  4. A yw’r gwaith y creffir arno’n cynnwys yr adnoddau, y sgiliau a’r cyfraniadau angenrheidiol i sicrhau y bydd plant a phobl ifanc yn goroesi ac yn datblygu’n llawn?
  5. Pa gamau ymgynghori a chynnwys a gafwyd? A yw’n bodloni’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc?

Cytunodd y cyfarfod y dylid defnyddio’r rhain mewn gwaith craffu, ond byddai’n rhaid eu mireinio er mwyn eu defnyddio yn y broses graffu.
Darllenwch fwy yn http://www.swanseascrutiny.co.uk/2015/11/02/scrutiny-councillors-champion-childrens-rights-in-swansea/#1WtID3fKCmh1Pllr.99

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.