Cyflwyno Cwestiynau gan y Cyhoedd

Mae Cwestiynau gan y Cyhoedd bellach ar yr agenda craffu.

813966437_11c28ee414_z

 

 

 

 

Mae mwy o gyfle bellach i’r cyhoedd fod yn rhan o waith craffu a chyfranogi mewn cyfarfodydd. Mae cynghorwyr craffu’n ymrwymedig i gael mwy o aelodau o’r cyhoedd i gyfrannu at waith craffu fel y gall adlewyrchu eu barn.

Yn dilyn ymrwymiad i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad cyhoeddus, bydd ‘Cwestiynau gan y Cyhoedd’ ar agendâu cyfarfodydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn y dyfodol, gan ddechau gyda’r cyfarfod ar 11 Ionawr 2016.

Bydd Cwestiynau gan y Cyhoedd yn gweithredu yn yr un ffordd ag y mae’n gweithredu yng nghyfarfodydd y cyngor a’r Cabinet. Yn ymarferol i’r pwyllgor mae hyn yn golygu:

  • Y gall unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n bresennol ofyn cwestiwn i gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ac unrhyw Aelod(au) Cabinet sy’n bresennol am faterion a gynhwysir ar ran agored yr agenda.
  • Dyrennir cyfnod o 10 munud ar gyfer Cwestiynau gan y Cyhoedd.
  • Nid oes rhaid rhoi hysbysiad o Gwestiwn gan y Cyhoedd ond bydd unrhyw gwestiwn a gyflwynir ymlaen llaw yn cael blaenoriaeth o fewn y 10 munud a bennwyd.

Mae cyflwyno Cwestiynau gan y Cyhoedd yn un cam gweithredu i helpu i gyflwyno blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer craffu.

Mae Cwestiynau gan y Cyhoedd yn ychwanegol at gyfleoedd sydd eisoes yn bod i’r cyhoedd awgrymu cwestiynau i’r pwyllgor ar gyfer Sesiynau Cwestiynau Aelod y Cabinet yn ogystal â gwneud ceisiadau ar gyfer craffu.

Llun: https://flic.kr/p/2eVMS6

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.