Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy

Community Garden

Bydd y panel craffu Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy’n cyfarfod nesaf ar 14 Ionawr, lle bydd yn cynllunio’i ymchwiliad a fydd yn canolbwyntio’n fwy penodol ar sut gall y cyngor gefnogi preswylwyr orau i gynnal rhai gwasanaethau yn eu cymunedau eu hunain.Er mwyn cynnal gwasanaethau lleol pwysig, bydd angen i’r cyngor fod yn radical wrth edrych ar y wahanol ffyrdd o’u cyflwyno. Bydd partneriaeth â chymunedau lleol yn cynnig ateb i barhau i gynnal rhai gwasanaethau. Defnyddiwyd y term gweithredu yn y gymuned er mwyn esbonio peth o’r weithgaredd hwn.

Bydd y Panel yn trafod pa agweddau yr hoffent edrych arnynt, a chyda phwy y byddant yn siarad ac yn ymgynghori â hwy.  Bydd rhai prif lwybrau ymholi’n cynnwys er enghraifft:

  • Beth yw ystyr gweithredu yn y gymuned yn ymarferol
  • Pa lefel o gefnogaeth bydd y cyngor o bosib yn ei darparu
  • Sut mae, a sut bydd yn gweithio gyda chymunedau ar y mater hwn
  • Edrych ar esiamplau o arfer da yma ac mewn mannau eraill
  • Sicrhau parhad a chynaladwyedd darpariaeth gwasanaethau.

Am fwy o wybodaeth am yr ymchwiliad hwn neu agweddau eraill ar graffu gallwch fynd i’n tudalennau gwe ar www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.