Mae Panel Ymchwiliad Craffu’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn cwrdd ar 16 Chwefror i siarad â chynrychiolwyr o adran addysg y cyngor ac aelodau’r Cabinet dros Addysg Plant a Phobl Ifanc. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.30am a chaiff ei gynnal yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Ddinas.
Nod y sesiwn yw archwilio nifer o faterion gan gynnwys:
- Nodi a chefnogi plant â salwch meddwl a phroblemau iechyd meddwl
- Cyfeirio a chael mynediad i wasanaethau
- Sut mae ysgolion yn cysylltu â gwasanaethau eraill
Hoffai’r Cyng. Mary Jones, cynullydd y panel craffu, wahodd cwestiynau gan y cyhoedd yn ystod 10 munud cyntaf y cyfarfod. Os oes gennych gwestiwn am addysg ac iechyd meddwl, gallwch ei gyflwyno drwy’r blog neu ei e-bostio i scrutiny@swansea.gov.uk
Leave a Comment