Arfer da ac Ysgolion Abertawe

5850264509_667d3f2b86_o

Mae digonedd o arfer da wedi’i amlygu gan Estyn o ran ysgolion yn Abertawe, ac mae’r Panel Craffu ar Berfformiad Ysgol yn bwriadu dathlu hyn drwy ddigwyddiad arfer da ar 11 Chwefror.  Bydd y panel yn siarad â dwy o ysgolion a ymatebodd i’r ‘alwad am arfer da’, sef Ysgol Gynradd Trallwn ac Ysgol Gynradd Craigfelen.  Byddant hefyd yn edrych ar ymchwil sy’n amlygu arfer rhagorol yn Abertawe yn y sectorau cynradd ac uwchradd, yn ogystal â mannau eraill yng Nghymru.  Bydd yr wybodaeth maent yn ei chasglu’n cael ei defnyddio i lunio rhai pwyntiau dysgu a gaiff eu hanfon wedyn at Aelod y Cabinet dros Addysg ar ffurf llythyr.  Os ydych am fynd i’r cyfarfod hwn, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am graffu’n gyffredinol gallwch gysylltu â ni yn scrutiny@swansea.gov.uk

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.