Craffu’r Gyllideb

Photo credit: Lendingmemo.com

Photo credit: Lendingmemo.com

Cynhelir cyfarfod o’r Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ddydd Mercher 10 Chwefror am 11pm yn Ystafell Bwyllgor 6, Neuadd y Ddinas. Ei ddiben fydd trafod Cynigion Cyllidebol y cyngor ar gyfer.

Rôl y panel yw cwestiynu a herio agweddau ar y gyllideb er mwyn ei helpu i lunio barn a dod i gasgliadau ac, os yw’n briodol, wneud argymhellion ar y cynigion ar gyfer y gyllideb.

Bydd y Cynghorydd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth (Arweinydd y Cyngor) yn delio â chwestiynau gan y panel, cynghorwyr a’r cyhoedd am gynigion sydd eisoes yn bod sy’n ceisio arbed hyd at £89m dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a hefyd i roi’r diweddaraf ar sut gallai’r setliad ariannol llywodraeth leol dros dro gwell na’r disgwyl ar gyfer 2016-17 effeithio ar y cynigion hyn.

Mae hyn i gyd yn rhan o’r cyfnod cyn cyfarfod y cyngor llawn a gynhelir ar 25 Chwefror lle caiff y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf ei phennu.

Mae’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd. Os hoffai pobl ddod i ofyn cwestiwn, dylent ffonio’r Tîm Craffu ar 636292. Gellir cyflwyno cwestiynau hefyd drwy e-bost i craffu@abertawe.gov.uk, neu yma ar dudalen y blog craffu. Neilltuir 20 munud yn y cyfarfod ar gyfer cwestiynau gan y cyhoedd. Nid oes rhaid rhoi hysbysiad o gwestiwn gan y cyhoedd ond bydd unrhyw gwestiwn a gyflwynir ymlaen llaw yn cael blaenoriaeth o fewn yr amser a neilltuwyd.

Bydd cynullydd y panel, y Cynghorydd Chris Holley, yn cyflwyno canfyddiadau ac arsylwadau’r panel yng nghyfarfod y Cabinet ar 15 Chwefror fel y gellir eu hystyried yn ystod trafodaeth y cyngor o’r gyllideb.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.