Galw am Dystiolaeth: Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy drwy Weithredu yn y Gymuned

image for blog

Mae panel ymchwiliad craffu newydd wedi dechrau sy’n edrych ar adeiladu cymunedau cynaliadwy trwy ddatblygu gweithredu yn y gymuned.Mae’r Panel yn canolbwyntio’n benodol ar sut gall y cyngor rhoi’r cefnogaeth orau i breswylwyr er mwyn iddynt gynnal rhai gwasanaethau yn eu cymunedau eu hunain.

Mae cynghorwyr wedi dewis edrych ar y testun hwn am y rhesymau canlynol:

  • Er mwyn cynnal gwasanaethau lleol pwysig bydd angen i’r cyngor edrych ar wahanol ffyrdd o’u cyflwyno mewn modd radical. Bydd partneriaeth â chymunedau lleol yn cynnig ateb i gadw rhai gwasanaethau i fynd.Defnyddiwyd y term gweithredu yn y gymuned i esbonio peth o’r weithgaredd hwn.
  • Mae angen i ni adeiladu a chefnogi cymunedau cynaliadwy oherwydd bydd hyn yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl ac yn lleihau costau gwasanaethau.
  • Mae modelau presennol o gyflwyno gwasanaethau’n anghynaladwy, ac nid ydynt yn darparu’r canlyniadau gorau i bobl bob tro.
  • Mae angen i ni adeiladu cymunedau cryf, grymus a chydlynol sy’n gallu uno phobl, dylanwadu ar wneud penderfyniadau ac arwain ar weithredu yn y  gymuned, gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros fentrau a materion cymunedol.

Mae’r cyngor yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi gweithredu yn y gymuned.  Mae Cynghorwyr Abertawe felly am glywed barn ystod eang o bobl er mwyn cynnig ffyrdd ymarferol o wella’r agenda gweithredu yn y gymuned.

Llwybrau Ymholi

Mae’r panel wedi dewis edrych yn benodol ar y llwybrau ymholi canlynol:

  • Beth yw ystyr gweithredu yn y gymuned yn ymarferol
  • Beth yw lefel y cefnogaeth sydd ei hangen
  • Sut mae a sut bydd trosglwyddo gwasanaethau i gymunedau’n gweithio
  • Sut bydd y newid hwn i wasanaethau, a’r gefnogaeth, yn cael eu hariannu
  • Sut rydym/byddwn yn gweithio gyda chymunedau er mwyn datblygu gweithredu yn y gymuned
  • Beth fu effaith gweithredu yn y gymuned hyd yn hyn
  • Edrych ar arfer da yma ac mewn mannau eraill
  • Edrych ar gynaladwyedd  gweithgaredd gweithredu yn y gymuned.

Sut i fynegi’ch barn

dolen yr arolwg

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.