Mae’r her o ganfod cefnogaeth i bobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl yn her

Weithiau, mae canfod cefnogaeth i berson ifanc ag anghenion iechyd meddwl yn her. Mae’n werth nodi ar y cam hwn y gwahaniaeth rhwng iechyd meddwl a salwch meddwl. Mae iechyd meddwl yn cynnwys materion ac anghenion emosiynol a lles ac fe eir i’r afael ag ef drwy ymyriadau anfeddygol. Mae salwch meddwl yn cael ei ddiagnosio gan weithiwr iechyd priodol ac fe eir i’r afael ag ef drwy Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc arbenigol (CAMHS).

Yr wythnos ddiwethaf bu panel craffu CAMHS yn siarad â Fforwm Iechyd Meddwl Gwasanaethau Gwirfoddol Cyngor Abertawe. Roedd y cynghorwyr am ganfod pa gefnogaeth a roddir gan y sector gwirfoddol i blant a phobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl a allai eu helpu rhag cael eu cyfeirio i wasanaethau salwch meddwl meddygol arbenigol a ddarperir gan CAHMS.

Y peth pwysicaf a ddysgodd y panel oedd mai nifer bach o wasanaethau cefnogi a ddarperir gan y sector gwirfoddol yn arbennig i bobl ifanc ag anghenion emosiynol, lles ac iechyd meddwl. Roedd y rhan fwyaf o’r gwasanaethau a ddarperir gan aelodau’r Fforwm Iechyd Meddwl ar gyfer oedolion. Cytunodd pawb fod hyn yn fwlch mawr mewn cefnogaeth a darpariaeth. Gallai plant a phobl ifanc gael cefnogaeth ond yn aml roedd hyn ar ôl cael eu cyfeirio i sefydliad am fater cwbl wahanol, er enghraifft, bod yn ofalwr, yn fam ifanc, y mae angen cefnogaeth teulu arnynt.

Canfu’r panel fod sefydliadau gwirfoddol yn darparu peth cefnogaeth i blant a phobl ifanc megis SNAP Cymru, ond roeddent yn dibynnu ar amrywiaeth o ddulliau ariannu, codi arian a gwirfoddolwyr di-dâl er mwyn iddynt barhau. Roedd gwirfoddolwyr bob amser yn derbyn hyfforddiant wrth ymuno â sefydliad ond nid oedd llawer o arian am hyfforddiant ychwanegol fel nodi anghenion iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc.

Byddai rhai sefydliadau a oedd yn darparu cefnogaeth i oedolion yn aml yn codi pobl ifanc a oedd efallai yn y “bwlch” pontio.  Cytunodd y Fforwm Iechyd Meddwl fod y llwybr o addysg i CAMHS yn dda ac yr oedd yn glir.

Gofynnodd y panel i’r Fforwm Iechyd Meddwl beth allai helpu i wella mynediad i CAMHS, a chytunodd aelodau y byddai Gr?p Comisiynu CAMHS a arweinir gan iechyd sy’n archwilio’r ddarpariaeth bresennol, yn manteisio ar gynrychiolaeth gyson gan awdurdodau lleol, addysg a’r sector gwirfoddol yn rhanbarth bae’r gorllewin. Byddai hyn yn sicrhau bod lleisiau pwysig y rhai hynny sy’n cael eu cyfeirio i CAMHS yn cael mynegi barn ar lywio gwasanaethau’r dyfodol.

Bydd y panel craffu’n cwrdd eto at 16 Chwefror am 9.30am yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Ddinas i siarad â’r Prif Swyddog Addysg ac aelodau’r cabinet dros Addysg a Phlant a Phobl Ifanc.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.