Mynd i’r afael â phroblem ceffylau ar dennyn

Mae Cynghorwyr Craffu yn Abertawe’n ystyried problem ceffylau sydd ar dennyn ar dir cyhoeddus.  Maen nhw’n ystyried deiseb gan gr?p o’r enw Cyfeillion Ceffylau Abertawe sy’n galw am wahardd clymu ceffylau.

Mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar, clywson nhw dystiolaeth am gyflwr gwael nifer o’r ceffylau sydd ar dennyn o gwmpas Abertawe.  Clywsant hefyd fod problemau nodi perchnogion yn ei gwneud hi’n anodd cymryd camau cyfreithiol.

Cynhelir cyfarfod pellach er mwyn trafod y mater ddydd Mawrth 8 Mawrth am 4.30 yn Neuadd y Ddinas Abertawe, Ystafell Bwyllgor 3a.

Mae croeso i’r cyhoedd ddod ac arsylwi’r cyfarfod.

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Jones, sy’n arwain y gweithgor:

Mae hwn yn fater o bryder mawr sydd wedi dod i’r amlwg drwy ymgyrch gyhoeddus.  Mae hefyd yn fater cymhleth y bydd angen ei ystyried yn ofalus os rydym yn mynd i ddod o hyd i ateb, o ystyried yr heriau ariannol y mae’r cyngor yn eu hwynebu.

Rydym wedi clywed peth tystiolaeth druenus am gyflwr rhai o’r ceffylau hyn, ac rydym am sicrhau yr archwilir i bob opsiwn posib fel y gellir gwneud mwy.

Cynhaliwyd gyfarfod gyntaf y Gweithgor Craffu Ceffylau ar Dennyn ar 7 Ionawr, a oedd yn cynnwys cyflwyniadau gan Gyfeillion Ceffylau Abertawe, yr Ymddiriedolaeth Pettifor a’r RSPCA.

Rhoddwyd tystiolaeth hefyd gan Y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, a Dave Picken, Swyddog Adrannol Safonau Masnach y cyngor.

Gallwch lawrlwytho tudalennau cyfarfod mis Ionawr o’r dudalen Cyhoeddiadau Craffu yma.

Bydd cyfarfod mis Mawrth yn clywed gan CHAPS – elusen lleol sy’n gweithio i fynd i’r afael â phroblem ceffylau ar dennyn drwy addysg.

Os oes gennych dystiolaeth yr hoffech ei chyflwyno i’r cyfarfod hwn, gallwch ei hanfon at y Tîm Craffu cyn 25 Chwefror.

Gellir cysylltu â’r Tîm Craffu yn www.abertawe.gov.uk/craffu

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.