Cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf wrth Graffu ar Addysg

school_uniform

Bydd aelodau’r Panel Craffu ar Berfformiad Ysgolion yn eu cyfarfod ar 11 Mai yn dechrau cynllunio eu rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn nesaf. Brîff y panel yw darparu her barhaus i berfformiad ysgolion i sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n cael addysg o safon; a bod yr awdurdod yn bodloni ei amcanion o ran gwella safonau ysgolion a chyflawniad disgyblion.

Mae’r Panel wedi cysylltu â Chynghorwyr Abertawe, Penaethiaid a Llywodraethwyr ysgolion Abertawe gan ofyn iddynt gyflwyno adborth i’r rhaglen waith gan gynnwys gofyn am fewnbwn ar y pethau canlynol:

  • Beth ddylai’r Panel Craffu ar Berfformiad Ysgolion y Cyngor edrych arno dros y flwyddyn nesaf?
  • Pa faterion sydd bwysicaf yn y byd addysg ar hyn o bryd?
  • A oes meysydd addysg y gallai cynghorwyr edrych arnynt a fyddai’n gwneud gwahaniaeth ac yn ychwanegu gwerth?

A oes gennych unrhyw faterion y dylai’r Panel Craffu ar Berfformiad Ysgolion eu hystyried? Os oes, e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.