Canlyniadau Craffu ar y Gyllideb

Cynhaliodd y Panel Perfformiad Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid ei gyfarfod blynyddol i graffu ar y gyllideb ar 10 Chwefror. Daeth y Cynghorydd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth (Arweinydd), ynghyd â Ben Smith, y Prif Gyfrifydd i’r cyfarfod.

Diben y cyfarfod oedd i’r Panel ystyried adroddiad Cyllideb y Cabinet cyn cyfarfod y Cabinet ar 15 Chwefror er mwyn nodi rhai pwyntiau allweddol yr oedd y Cynghorwyr Craffu am ddod at sylw’r Cabinet.

Trafodwyd amrywiaeth o gwestiynau, ynghyd â’r amser a bennwyd ar gyfer cwestiynau gan y cyhoedd.Roedd y materion yr ymdriniwyd â hwy’n cynnwys:

  • Y broses ymgynghori cyhoeddus ar y gyllideb ac adolygiadau comisiynu
  • Ariannu parciau
  • Swm yr arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a chlustnodi cyllidebau
  • Ariannu’r gwasanaeth amgueddfa
  • Stadiwm Liberty
  • Defnyddio cydweithfeydd a busnesau cymdeithasol i gyflwyno gwasanaethau’r cyngor
  • Taliadau diswyddo
  • Grant Amddifadedd Disgyblion
  • Adolygiad gwasanaeth cerbydau a adawyd
  • Cynnydd i wasanaethau megis ffïoedd y gwasanaethau claddu ac amlosgi
  • Costau lleoliadau priodas a hyrwyddo’r plasty fel lleoliad priodasau ategol
  • Pwyslais ar Addysg a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng nghyllideb y cyngor
  • Llunio modelau masnachol a masnachu
  • Cynlluniau trosglwyddo asedau
  • Costau ariannu cyfalaf
  • Cau’r Ganolfan Croeso
  • Gorfodi parcio mewn ardaloedd preswyl
  • Ystyried cyfleoedd noddi eraill
  • Cronfa diogelu Gofal Cymdeithasol

Yn benodol, roedd aelodau’r Panel am i’r Cabinet nodi eu bod yn teimlo unwaith y bydd canlyniadau’r Adolygiadau Comisiynu* niferus ar gael, yna dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol ar yr opsiynau gwahanol. Gofynnodd y broses Ymgynghori ar y Gyllideb gwestiynau arwyddocaol ynghylch a fyddai pobl yn barod i dalu am wasanaethau yn hytrach na’u colli. Fodd bynnag, roedd y Panel yn ystyried y dylai mwy o wybodaeth fanwl gael ei rhoi i bobl er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad llawn. Roeddent yn deall y byddai’r wybodaeth hon ar gael unwaith y bydd adolygiadau wedi’u cwblhau. Nododd y Panel hefyd y dylai’r paneli craffu perthnasol fod yn rhan o’r broses ymgynghori.

Yn gyffredinol, nododd aelodau’r Panel eu pryder cynyddol y gallai parhau â’r toriadau i gyllideb y cyngor arwain at sefyllfa tymor hir lle nad oes arian ar gael am unrhyw beth ar wahân i wasanaethau statudol h.y. Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg

Cytunodd yr Arweinydd i roi ymatebion ysgrifenedig i rai cwestiynau na allai eu hateb ar y dydd. Gwelir y rhain ym mhecyn agenda cyfarfod nesaf y Panel ar 9 Mawrth, ar y dudalen Cyhoeddiadau Craffu.

Daeth y Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd y Panel i Gyfarfod y Cabinet ar 15 Chwefror er mwyn rhoi barn y Panel.

*Mae adolygiad comisiynu’n ffordd o ddod o hyd i sut gellir cyflwyno gwasanaethau’r cyngor mewn ffordd gynaliadwy.Bydd yr adolygiadau’n helpu i nodi gwelliannau i wasanaethau, arbed costau a chreu incwm a gwella effeithlonrwydd. Mae rhaglen 3 blynedd o adolygiadau ar waith.

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.