Camau ymlaen o ran mewnfuddsoddi ar draws Rhanbarth Dinas-ranbarth Bae Abertawe

220155450_27a2afcca3[1]

Mewn cyfarfod craffu ar 3 Mawrth, roedd cynghorwyr yn falch o glywed bod camau mawr wedi’u cymryd o ran mewnfuddsoddi yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe a bod gweddill yr argymhellion a wnaed gan y panel i’r Cabinet y llynedd wedi’u rhoi ar waith.

Roedd y panel yn ystyried bod creu ystafell farchnata ranbarthol yng Nghampws y Bae Prifysgol Abertawe ar gyfer ymholiadau am fewnfuddsoddi’n gam cadarnhaol. Gwelwyd hefyd fod y syniad o gael rhith-dîm a rheolwr marchnata i fynd ag ymholiadau rhagddynt yn gam pwysig ymlaen. Mae cynghorwyr yn credu y bydd hyn yn cyfrannu’n helaeth at lenwi’r bwlch o ran yr hyn nad oedd gan y rhanbarth gynt, sef ‘blaen t?’ croesawgar sydd ar gael i fuddsoddwyr posib. Roedd y panel hefyd yn falch o glywed bod portffolio o gynigion hefyd wedi cael ei ddatblygu.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwaith hwn neu am graffu’n fwy cyffredinol, ewch i’n tudalennau gwe yn  www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.