Craffu’n gweld Grym y Disgybl yn Ysgol Gynradd Craigfelen

 

Good practice 1

Gwnaeth Cynghorwyr o’r Panel Craffu ar Berfformiad Ysgolion gwrdd â rhai o ddisgyblion a Phennaeth Ysgol Gynradd Craigfelen ar 14 Ebrill. Roedd y Cynghorwyr yn hapus iawn gyda’r arfer da a amlygwyd gan yr ysgol, yn enwedig…

Trosi syniadau’n realiti, gwireddu breuddwydion…. ystod eang o grwpiau llais y disgybl a fydd yn cynnwys disgyblion o bob oed a gallu (Y Cyngor Ysgol, Sgwad Eco, Ffrindiau’r Buarth, Sgwad Diogelwch, Y Criw Mentrus, Staff Caffi Graigos a Llysgenhadon Hawliau). Maent oll yn cael y cyfle i gymryd rhan wrth wneud penderfyniadau am fywyd ysgol. Yn benodol, y disgyblion a arweiniodd yr adolygiad dros y polisi dysgu ac addysgu pan ddaeth y cwricwlwm newydd i rym, ac maent wedi monitro’r newidiadau’n gyson.

Grym y Disgybl yn rhan o Gyngor yr Ysgol… mae’r Cyngor Ysgol wedi cymryd rhan wrth benderfynu ar nifer o’r agweddau ar ddatblygu ysgol. Mae’r disgyblion wedi datblygu Cynllun Grym y Disgybl sy’n gweithio ochr yn ochr â’r Cynllun Gwella Ysgol, ac mae disgyblion wedi datblygu dull o asesu hyn drwy ddefnyddio llyfryn a ddyluniwyd ganddynt at y diben. Mae disgyblion yn aml yn rhannu eu profiadau dysgu gyda’r llywodraethwyr gan ddefnyddio portffolios o waith, a llyfrau.

Good practice2

Cydnabod cryfderau disgyblion unigol… y gwaith sy’n cael ei wneud gyda phlant â phroblemau ymddygiad i leihau gwaharddiadau. Helpu disgyblion i gymryd rhan yn gadarnhaol ym mywyd ysgol, er enghraifft datblygu sgiliau er mwyn bod yn ‘ffrind buarth’ i ddisgyblion iau. Anogir disgyblion hefyd i gymryd rhan ym mhrosiectau menter. Mae disgyblion sydd eisoes wedi diflasu ar ddysgu wedi cael eu hysgogi a’u hysbrydoli drwy fenter. Nid yw’r ysgol wedi gwneud unrhyw waharddiadau neu gyfeiriadau at addysg, heblaw am yn yr ysgol, dros y pum mlynedd diwethaf.

 Cynnwys teuluoedd a’r gymuned… un o brif flaenoriaethau’r ysgol yw cysylltu’n gadarnhaol â’r gymuned gyfan.  Mae 53% o ddisgyblion yr ysgol yn derbyn prydau ysgol am ddim. Maent yn defnyddio peth o’u Grant Amddifadedd Disgyblion i weithio gydag arbenigwyr cerdd a chelf, ac maent wedi creu oriel gelf disgyblion a rhieni sy’n cael ei harddangos â balchder ar fuarth yr ysgol.

monster 

Yr anghenfil o dan y môr…  Mae disgyblion wedi ysgrifennu llyfr, yn ogystal a’i ddylunio, sydd hefyd wedi dilyn y broses argraffu a gwerthu. Mae’r llyfr bellach ar werth yn yr ysgol ac yn rhai siopau lleol.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am Graffu, gallwch weld ein tudalennau we www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.