Craffu’n Cyrraedd y Rhestr Fer am Wobr Genedlaethol o Fri

MJ Awards 2016 - FinalistMae Cyngor Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr MJ, sef yr Oscars ar gyfer llywodraeth leol, yn y categori ‘Rhagoriaeth mewn Llywodraethu a Chraffu’.

Mae cyrraedd y rhestr fer yn adlewyrchu ymagwedd ‘hyblyg’ y cyngor at waith craffu – mae llai o’r gwaith yn cael ei wneud mewn pwyllgorau ffurfiol a mwy gan weithgorau hyblyg. Mae hyn yn galluogi cynghorwyr i dreulio mwy o amser yn mynd i’r afael â’r materion pwysicaf ac ymateb yn gyflym i faterion sy’n peri pryder i’r cyhoedd.

Prif nod craffu yw gweithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ i’r Cabinet a phobl eraill sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn hyrwyddo gwell gwasanaethau, polisïau a phenderfyniadau. Mae craffu’n debyg i waith pwyllgorau dethol seneddol ac mae ei aelodau’n dod o blith cynghorwyr nad ydynt yn rhan o’r Cabinet.

Yn ogystal ag ymchwilio i faterion sy’n peri pryder, mae’r pwyllgor craffu’n galw pob Aelod Cabinet yn ei dro i ateb cwestiynau ar ei gyfrifoldebau. Mae croeso i’r cyhoedd gyflwyno cwestiynau a dod i wylio’r cyfarfodydd hyn.

Yn ddiweddar, mae craffu wedi edrych at faterion megis perfformiad ysgolion, ceffylau ar dennyn ar dir y cyngor, gorchmynion cadw coed a dyfodol y gwasanaeth cerdd. Mae ymchwiliad craffu newydd sy’n edrych ar Strategaeth Trechu Tlodi’r Cyngor ar fin dechrau.

Meddai panel beirniadu’r wobr MJ,

“Mae ymroddiad Abertawe i graffu agored, tryloyw a blaengar yn cefnogi cynghorwyr i weithio mewn ffyrdd hyblyg sy’n weladwy i’r cyhoedd ac yn cael effaith gadarnhaol ar benderfyniadau a chanlyniadau. Ym marn y beirniaid, gall y cyngor ddangos yn glir sut mae ei ymagwedd at lywodraethu’n ychwanegu gwerth i’r ffordd y mae gwasanaethau allweddol yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno.”

Meddai’r Cynghorydd Mary Jones, Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu,

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr genedlaethol hon. Mae’n dangos y gwaith caled y mae cynghorwyr craffu wedi’i wneud i wella gwasanaethau a gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Mae’r rhestr fer hon hefyd yn adlewyrchu cyfraniad cynghorwyr ar draws y pleidiau a’u cefnogaeth i’r system – mae’n ymdrech dîm go iawn.”

 

Caiff enillwyr gwobr MJ eu cyhoeddi yn Llundain ar 16 Mehefin.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.