Arfer rhagorol wedi’i amlygu mewn ysgol uwchradd yn Abertawe

head_cefnhengoed

Gwnaeth cynghorwyr o Banel Craffu Perfformiad Ysgolion gwrdd â’r Pennaeth a Llywodraethwr o ysgol Gymunedol Cefn Hengoed er mwyn trafod canlyniad arolygiad diweddar Estyn a thaith wella’r ysgol. Ar 9 Mehefin siaradodd y panel â’r Ymgynghorydd Herio, wedyn gyda’r Llywodraethwr ysgol.

Dewisodd y Panel siarad â’r ysgol gan ei bod wedi cael ei chanmol am ei harfer rhagorol gan Estyn, ac roeddent eisiau dysgu, dathlu a helpu i rannu’r arfer da hwnnw.

Arolygwyd yr ysgol ym mis Hydref 2015 ac fe’i barnwyd yn rhagorol o ran ei pherfformiad presennol a chyda rhagolygon ardderchog ar gyfer gwella.

Amlinellodd y Pennaeth y cyd-destun y mae’r ysgol yn gweithio ynddo gan esbonio bod gan yr ysgol 38.4% o ddisgyblion prydau ysgol am ddim yn 2015/16, 37% o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig a bod 73% o ddisgyblion yn byw yn rhannau mwyaf difreintiedig Cymru (yn unol â Mynegai Amddifadedd Lluosog 2015).

Mae’n ysgol arweiniol yn y sector yng Nghymru a chafodd 15 dyfarniad rhagorol yn olynol yn cynnwys holl agweddau arolygiad Estyn. Mae hyn yn ei gwneud yr unig un allan o 5 ysgol uwchradd fod wedi llwyddo i wneud hyn yng Nghymru yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.

Canfir Cynghorwyr fod rhai o’r rhesymau am y dyfarniad ardderchog hwn yn cynnwys:

  • Arweinyddiaeth: Mae safon uchel a chysondeb arweinyddiaeth ar bob lefel yn gryfder arbennig. Dosberthir rolau a chyfrifoldebau yn effeithiol, ac mae llinellau atebolrwydd yn glir. Mae’r holl arweinyddion yn gosod disgwyliadau a heriau o lefel uchel ar gyfer staff ac adrannau unigol, yn ogystal â’r disgyblion. Estyn
  • Sicrhau ansawdd a defnyddio data’n rhagorol, monitro tynn gyda sawl lefel o sicrhau ansawdd.
  • Ffocws clir ar berfformiad disgyblion a chodi safonau
  • Mae ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus staff wedi helpu i greu safon addysgu uchel ar draws yr ysgol, sydd wedi cael ei barnu fel cryfder arbennig gan Estyn
  • Mae’n ysgol sy’n hunanwerthuso’n barhaus ac sy’n mynd i’r afael â heriau’n uniongyrchol
  • Corff llywodraethu cefnogol a heriol
  • Cymuned leol gefnogol sydd hefyd yn elwa o’r ysgol lwyddiannus hon
  • Gofal bugeiliol rhagorol
  • Mae’r ysgol yn gweithio’n dda gydag eraill wrth rannu arferion, nid yn unig o ran ysgolion cynradd ei chlwstwr ond hefyd gyda rhieni a’r gymuned leol

Creodd y canlynol argraff arbennig o dda ar y panel:

  • Gwaith Cefn Hengoed gydag ysgolion cynradd ei chlwstwr
  • Llythrennedd, rhifedd a sgiliau sylfaenol yn cael eu datblygu ar draws y cwricwlwm.
  • Y ffordd y mae’r ysgol wedi lleihau’r bwlch rhwng perfformiad bechgyn a merched gan wella deilliannau bechgyn a disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim yn sylweddol
  • Perfformiad gwell cyffredinol carfanau blwyddyn 9 ac 11 yn olynol mewn perthynas â dangosyddion cenedlaethol
  • Gwelliant parhaus o ran presenoldeb disgyblion gyda’r ysgol yn bodloni targed hyd yn hyn eleni gyda phresenoldeb o 94.1%.

Nododd yr ysgol rai o’r heriau y bydd yn eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys:

  • Ffocws parhaus ar gyllidebau a thoriadau cyllidebol ysgolion a’r sector cyhoeddus
  • Adroddiad Donaldson a datblygiadau cysylltiedig – rhywbeth cadarnhaol ond sy’n galw am lawer o amser ac adnoddau.
  • Bagloriaeth Cymru – hefyd yn galw am lawer o adnoddau.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwaith hwn neu am graffu yn gyffredinol, ewch i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu neu e-bostiwch ni yn scrutiny@swansea.gov.uk

Darperir y llun gan: Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.