Oes gennych gwestiwn i aelodau’r cabinet?

Mae Pwyllgor Rhaglen Graffu’r cyngor yn galw cabinet y cyngor i gyfrif ac yn trefnu sesiynau holi ac ateb gyda phob aelod o’r cabinet yn ystod y flwyddyn.

813966437_11c28ee414_z

 

 

 

 

Bydd pob sesiwn holi ac ateb yn archwilio’r gwaith y mae aelodau’r cabinet wedi’i wneud yn eu rôl, gan ystyried blaenoriaethau, gweithredoedd, cyflawniadau ac effaith.

Oes rhywbeth rydych chi’n meddwl y dylai’r pwyllgor ei ofyn iddynt?

Anfonwch eich syniadau atom trwy wneud sylw ar y blog hwn, trwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu drydar @craffuabertawe.

Bydd y pwyllgor yn ystyried unrhyw awgrymiadau wrth ddatblygu’i strategaeth holi, a gofynnir y cwestiynau allweddol i aelodau perthnasol y cabinet pan fyddant yn ymddangos gerbron y pwyllgor.

Mae’r Cabinet yn cynnwys yr Arweinydd, y Cynghorydd Rob Stewart, a 9 cynghorwr ychwanegol a benodir gan yr arweinydd, y dyrennir cyfrifoldebau penodol iddynt.

Dechreuodd y Cynghorydd Christine Richards, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, sesiynau eleni, gan ymddangos gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 13 Mehefin.

Mae aelodau’r cabinet i fod i ymddangos fel a ganlyn:

Pryd:                                 Pwy:

11 Gorffennaf 2016:         Y Cyng. Mark Child – Lles a Dinas Iach

8 Awst 2016:                     Y Cyng. Jennifer Raynor – Addysg

12 Medi 2016:                   Y Cyng. Will Evans – Gwrthdlodi a Chymunedau

10 Hydref 2016:                Y Cyng. Robert Francis-Davies – Menter, Datblygu ac Adfywio

14 Tachwedd 2016:           Y Cyng. David Hopkins – Yr Amgylchedd a  Thrafnidiaeth

12 Rhagfyr 2016:               Y Cyng. Jane Harris – Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn

9 Ionawr 2017:                  Y Cyng. Rob Stewart (Arweinydd) – Cyllid a Strategaeth

13 Chwefror 2017:             Y Cyng. Andrea Lewis – Gwasanaethau’r  Genhedlaeth Nesaf

13 Mawrth 2017:               Y Cyng. Clive Lloyd – Trawsnewid a Pherfformiad

Mae cyfarfodydd y pwyllgor yn agored i’r cyhoedd ac mae croeso i chi ddod. Cynhelir pob cyfarfod yn Ystafell Bwyllgor 3A yn Neuadd y Ddinas, Abertawe, gan gychwyn am 4.30pm (ac eithrio 11 Gorffennaf – Ystafell Bwyllgor 2, y Ganolfan Ddinesig).

Caiff crynodeb o bob sesiwn, gan gynnwys cwestiynau a holir gan y cyhoedd, ymatebion, a barn y pwyllgor, eu cynnwys mewn llythyr at aelod perthnasol y Cabinet. Cyhoeddir y llythyrau a’r ymatebion hyn gan aelodau’r cabinet ar wefan y cyngor ac yn agendâu Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn y dyfodol.
 

Delwedd: https://flic.kr/p/2eVMS6

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.