Dros 40 o ysgolion ledled de-orllewin Cymru yn Rhannu Rhagoriaeth mewn Gwyl

Dros 40 o ysgolion ledled de-orllewin Cymru yn Rhannu Rhagoriaeth mewn G?yl

Daeth dros 40 o ysgolion o Sir Gâr, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys ac Abertawe i rannu eu straeon llwyddiant yng nghynhadledd ERW.
Cynhaliwyd yr ‘wyl Rhannu Rhagoriaeth’ ddydd Iau, 7 Gorffennaf, yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.
Nod y digwyddiad oedd rhannu’r strategaethau a’r arferion mwyaf effeithiol yn y rhanbarth, a thu hwnt, galluogi athrawon, arweinwyr ysgolion a llywodraethwyr i rannu, dysgu a mwynhau, a chynnig cyfle i ysgolion rwydweithio.
Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Steve Perks, Pennaeth Ysgol Dyffryn Aman, wrth y cynrychiolwyr: “Nid yn aml y byddwn yn cael cyfle i ddod at ein gilydd i ddathlu’r gwaith a wnawn yn ein hysgolion. Heddiw yw’r diwrnod i ddathlu.”
John Carnochan, eiriolwr y blynyddoedd cynnar a chefnogi rhianta, oedd y siaradwr gwadd. Ac yntau’n gyn-Dditectif Brif Uwch-arolygydd yn Ystrad Clud am bron 39 mlynedd, ac yn aelod o Dasglu Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth yr Alban, roedd araith John yn canolbwyntio ar gydweithio, a’r modd y gall partneriaethau ar bob lefel sicrhau newid yn y sector cyhoeddus.

picture festival of good practice
Cafodd y digwyddiad ei ddefnyddio hefyd fel platfform i lansio Siarter Iaith Cymraeg Campus. Wedi’i chreu gan swyddogion y Gymraeg mewn Addysg ERW, mae’r siarter yn galluogi ysgolion i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae’r Siarter yn cynnwys tair gwobr – efydd, arian ac aur. Cafodd y Siarter ei threialu mewn 25 o ysgolion ledled rhanbarth ERW.
Meddai Betsan O’Connor, Rheolwr Gyfarwyddwr ERW: “Nod ein cynhadledd oedd cael athrawon, llywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion ynghyd i ddathlu a rhannu peth o’r gwaith ardderchog sy’n cael ei gyflawni yn ein rhanbarth.”
Cynhaliwyd deunaw o sesiynau gr?p, a oedd yn cynnwys y testunau canlynol: cefnogi dysgwyr i gael mynediad at gwricwlwm cynhwysfawr; datblygu cydnerthedd a chynnal ysgolion llwyddiannus iawn; ymagwedd ysgol gyfan at ddatblygu cymhwysedd digidol; meithrin gallu o fewn ysgolion a rhyngddynt er mwyn creu system sy’n hunanwella; strategaethau llwyddiannus i wella parhad a chynnal perfformiad a brwdfrydedd disgyblion – o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd – y cyfan wedi’u cyflwyno gan ysgolion fel Ysgol Teilo Sant yn Sir Gâr, Ysgol Esgob Gore yn Abertawe, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanfair Llythynwg ym Mhowys, Ysgol Bro Gwaun yn Sir Benfro, Ysgol Gynradd Gwaun Cae Gurwen yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac Ysgol Rhydypennau yng Ngheredigion.
Roedd yna hefyd farchnad yn arddangos dros 25 o ddarparwyr gwahanol ym myd addysg.
Cynghrair o chwe Awdurdod Lleol (Sir Gâr, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, ac Abertawe) yw ERW a reolir gan gyd-bwyllgor cyfansoddiadol cyfreithiol.
Mae’r chwe Awdurdod Lleol yn cydweithio i gytuno ar strategaeth a chynllun busnes rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.