Adolygu Gwella Ysgolion yn Abertawe

homework_1

Bydd Cynghorwyr Craffu, yn eu cyfarfod ar 1 Medi, yn edrych, fel y gwnânt yn flynyddol, ar sut mae’r gwasanaeth gwella ysgolion yn datblygu.Bydd hyn yn cynnwys adolygu sut mae safon y dysgu a’r addysgu a chysondeb asesiadau athrawon yn gwella. Bydd Pennaeth Hwb Addysg a Gwella Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn bresennol yng nghyfarfod y panel i drafod y materion canlynol gyda chynghorwyr:

  1. Beth yw’r blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth gwella ysgolion dros y flwyddyn sydd i ddod?
  2. Beth yw’r dangosyddion allweddol ar gyfer llwyddiant, a ydynt yn cael eu cyflawni?
  3. Sut mae’r gwasanaeth wedi datblygu a gwella dros y flwyddyn ddiwethaf?
  4. Beth yw’r cynnydd o ran gwella dysgu ac addysgu?
  5. Beth yw’r cynnydd o ran gwella cysondeb asesiadau athrawon?
  6. Beth yw’r rhwystrau i welliant pellach rydych yn eu hwynebu?
  7. Sut rydych chi’n gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth a ddarperir i ysgolion?
  8. A oes gan y gwasanaeth gwella ysgolion ddigon o staff ac adnoddau?
  9. Beth yw’r cynnydd gyda chefnogi a herio gwasanaethau i blant a phobl ifanc nad ydynt wedi’u haddysgu mewn ysgol brif ffrwd?

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am graffu, ewch i’r wefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.