Y ffordd ymlaen i Weithredu yn y Gymuned

Community Action picture

Mae’r cyngor yn wynebu toriadau cyllidebol sylweddol sy’n golygu bod yn rhaid i ni gymryd golwg radical ar y ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys penderfynu ar ba wasanaethau ac asedau yr ydym yn parhau i’w rheoli a’r rhai na allwn ni eu cefnogi. Bwriad Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r Dyfodol, yw trawsnewid gwasanaethau’r cyngor, gan sicrhau dichonoldeb ariannol y cyngor a gwella canlyniadau i breswylwyr. Mae hyn yn golygu dod o hyd i ddulliau newydd o ddarparu gwasanaethau sy’n gynaliadwy. Er mwyn cyflwyno’r nod hwn mae grwp o gynghorwyr Abertawe wedi cynnal ymchwiliad i’r pwnc hwn. Bydd canlyniad y gwaith hwn yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod y Cyngor ym mis Hydref.

Meddai’r Cynghorydd Terry Hennegan, Cynullydd y Panel, “Credaf yn gryf y gall cymuned ond bod yn gynaliadwy os oes gan bob aelod ynddi gyfle cyfartal i gymryd rhan yn llawn ym mywyd y gymuned hwnnw“.

Bwriad Gweithredu yn y Gymuned yw rhoi mwy o ddweud a rheolaeth yn nwylo cymunedau lleol er mwyn diwallu eu hanghenion, bodloni eu disgwyliadau fel eu bod nhw’n fwy hunangynhaliol. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r cyngor wedi cychwyn ar daith i weithio gyda’r sectorau gwirfoddol, cymunedol, cyhoeddus a phreifat yn Abertawe a’r rhanbarth ehangach er mwyn hyrwyddo Gweithredu yn y Gymuned, adeiladu gallu a datblygu prosiectau er mwyn i gymunedau gynnal gwasanaethau neu reoli asedau.

Mae’r Panel yn deall bod y cyngor ar ddechrau’r daith Gweithredu yn y Gymuned honno ac maent wedi croesawu’ y cyfle honno i gymryd rhan wrth ddatblygu’r ffordd ymlaen drwy’r adroddiad hwn. Mae Cynghorwyr yn falch o weld y cynnydd sydd wedi cael ei wneud, yn enwedig o ran chwaraeon a’r gwasanaethau hamdden. Mae’r adroddiad yn dod i nifer o gasgliadau ac mae’n rhoi argymhellion sy’n ffocysu ar sut gall y cyngor gefnogi preswylwyr i gynnal gwasanaethau yn eu cymunedau eu hunain. Mae llawer o’r rhain yn canolbwyntio’n benodol ar gyfathrebu a gweithio’n agos gyda phreswylwyr, grwpiau cymunedol a’n partneriaid yn y trydydd sector.

Mae’r panel yn credu y dylai’r cyngor wella’r ffordd y mae’n cyfathrebu yn ogystal â chydweithio â’n partneriaid yn y trydydd sector i sicrhau bod gwasanaethau yn parhau a’u bod nhw o ansawdd. Rydym yn cydnabod mai Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe yw un o’n partneriaid strategol allweddol a bod ganddo rôl bwysig o ran paratoi a chefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr i gymryd mwy o rolau cyfrifol o fewn ein cymunedau.

Hoffai’r panel ddiolch i’r holl bobl sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad hwn gan gynnwys Cynghorwyr, Swyddogion a’r rhai hynny o ganolfannau cymunedol a fynychodd grwp ffocws yn ogystal â holl ymatebwyr yr arolwg a gymerodd yr amser i lenwi ein holiadur.

Gallwch ddod o hyd i’n hadroddiad a mwy o wybodaeth am graffu yn fwy cyffredinol ar ein tudalennau gwe yn http://www.abertawe.gov.uk/article/11669/Ydych-chin-chwilio-am-agenda-llythyr-neu-adroddiad

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.