Beth yw cynnwys strategaeth gwrth-dlodi effeithiol?

Mae trechu tlodi’n her enfawr – yn arbennig yn lleol. Mae’n hanfodol, felly fod unrhyw strategaeth leol, megis yr un a roddwyd ar waith gan Gyngor Abertawe, yn ystyried pa dystiolaeth sydd ar gael fel y gall fod mor effeithiol â phosib.

Gan gadw hynny mewn cof, cynhaliwyd y sesiwn dystiolaeth gyntaf gan ein tîm  ymchwilio craffu  sy’n edrych ar sut gellir gwella Strategaeth Trechu Tlodi’r cyngor.

Clywyd tystiolaeth gan Victoria Winckler (Sefydliad Bevan) ac Emyr Williams (Sefydliad Polisïau Cyhoeddus Cymru). Defnyddiwyd dwy astudiaeth allweddol ganddynt i gynnig rhestr wirio o’r hyn y dylid ei gynnwys mewn strategaeth leol.

Defnyddiodd Victoria Winckler adroddiad diweddar Sefydliad Joseph Rowntree – Solve UK Poverty – i ddechrau i awgrymu pa faterion y gallai’r strategaeth fynd i’r afael â nhw. Dyma’r cynllun pum pwynt a awgrymir:

  1. Hybu incwm a lleihau costau
    2. Cyflwyno system fudd-daliadau effeithiol
    3. Gwella safonau addysg a gwella sgiliau
    4. Cryfhau teuluoedd a chymunedau
    5. Hyrwyddo twf economaidd tymor hir i bawb

Yn amlwg, mae rhai meysydd lle gall strategaethau lleol gael llai o effaith na llywodraethau cenedlaethol, ond mae bod yn glir ynghylch y meysydd hynny a cheisio sicrhau gweithio ar y cyd effeithiol ar bob lefel yn bwyntiau pwysig ym mhenderfyniad y panel.

Yna edrychodd Emyr Williams ar beth y dylai nodweddion strategaeth effeithiol fod. Defnyddiodd adroddiad o 2014 gan MacInnes et al – International and historical anti-poverty strategies: evidence and policy review.

Mae’r ymchwil hon yn awgrymu er mwyn i strategaethau fod yn effeithiol, rhaid iddynt ddangos:

  1. Arweinyddiaeth Wleidyddol
    2. Atebolrwydd a Chydlyniant
    3. Cysylltiadau â Pholisïau Economaidd
    4. Ymrwymiad Rhanddeiliaid Allanol
    5. Monitro a Gwerthuso
    6. Sefydliadau a Systemau
    7. Gwreiddioldeb

Mae’r rhain yn faterion y bydd y panel yn eu hystyried yn ei sesiynau tystiolaeth parhaus. Mae’r rhain yn cynnwys clywed gan y trydydd sector a sefydliadau cymunedol, darparwyr gwasanaethau lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru am ei hymchwiliad tlodi ei hun.

Mae’r panel hefyd yn cwrdd â phobl sydd mewn tlodi ac yn cynnal arolwg o weithwyr y rheng flaen.

Mae mwy o wybodaeth am yr ymchwiliad – gan gynnwys sut i gyfrannu – ar dudalennau gwe craffu yma

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.