Ydy plant yn barod i’r ysgol yn Abertawe?

2girls

Mae panel craffu newydd wrthi’n cael ei sefydlu er mwyn ymchwilio i barodrwydd plant ar gyfer dechrau’r ysgol yn Abertawe. Bydd yn cwrdd am y tro cyntaf ar 11 Hydref. Amlygwyd y mater gan Gynghorwyr fel pwnc pwysig i’w adolygu yn y Gynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu ym mis Mai. Ymysg y rhesymau bydd Cynghorwyr yn edrych ar y pwnc hwn yw:

  • Mae ansawdd profiad cynnar plentyn yn hollbwysig i’w lwyddiant yn y dyfodol. Caiff ei ffurfio gan amryw o ffactorau cydberthynol, yn enwedig effeithiau statws cymdeithasol-economiadd, effaith addysg gynnar a gofal o safon uchel, a dylanwad magwraeth dda.
  • Uchafbwynt datblygu’r ymennydd yw rhwng 0 a 3 oed. Mae cyrhaeddiad iechyd ac addysgiadol wedi eu cysylltu’n gryf ag amddifadedd, a gwelir effeithiau amddifadedd ar draws graddfa gymdeithasol yn Abertawe.
  • Mae bylchau rhwng cyflawniad y plant tlotaf a chyflawniad eu cyfoedion mwy breintiedig wedi eu sefydlu’n glir erbyn pum mlwydd oed. Mae gan lawer gormod o blant ddiffyg sylfaen sgiliau allweddol fel cyfathrebu, iaith, llythrennedd a mathemateg.
  • Erbyn 3 mlwydd oed, amcangyfrifir bod plant o gefndiroedd tlotach naw mis ar gyfartaledd y tu ôl i blant o gefndiroedd cyfoethocach. Gr?p Gweithredu Tlodi Plant

Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod ar 11 Hydref?

Bydd y Panel yn siarad â’r Cynghorydd Mark Child ac Aelod Cabinet dros Les a Dinas Iach Abertawe, yngh?d â Siân Bingham, Rheolwr Strategol Atal ac Ymyrryd yn Gynnar. Byddant yn rhoi trosolwg o’r pwnc i’r Panel ac yna yn ateb unrhyw gwestiynau y bydd gan y Panel.

Beth fydd ymchwiliadau allweddol y darn hwn o waith?

Bydd y Panel yna’n trafod ac yn cytuno ar ymchwiliadau allweddol ar gyfer y darn o waith hwn a gall y rhain gynnwys:

  • Beth yw ystyr parodrwydd plant i fynychu’r ysgol yn ymarferol? Beth sy’n rhan o ddatblygu parodrwydd plant ar gyfer mynd i’r ysgol, yn cynnwys er enghraifft: hunanofal, llythrennedd, iaith a chymdeithasu.
  • Achos ac effaith: Beth yw effaith parodrwydd plant ar gyfer yr ysgol ar eu perfformiad addysgiadol tymor hir? Am ba resymau nad yw plant yn barod ar gyfer yr ysgol? A ddylid cael sylfaen sy’n diffinio parodrwydd ar gyfer yr ysgol?
  • Partneriaid/perthnasoedd proffesiynol: Pwy sy’n rhan o wella parodrwydd plant ar gyfer yr ysgol yn Abertawe, ac ydyn nhw’n cydweithio’n effeithiol er mwyn cyrraedd y nod hwn?
  • Gweithio gyda theuluoedd: Sut ydym ni a’n partneriaid yn gweithio gyda theuluoedd i wella parodrwydd ar gyfer yr ysgol i blant yn Abertawe?
  • Effaith: Beth oedd effaith y mentrau hynny sydd wedi helpu i ddatblygu parodrwydd ar gyfer yr ysgol?
  • Arfer Da: Pa arweiniad ac enghreifftiau o arfer da sydd ar gael i wella parodrwydd ar gyfer yr ysgol?

Bydd Cynghorwyr yna’n penderfynu gyda phwy yr hoffent siarad, a bydd hwn yn cynnwys y rhai hynny sydd wedi’u heffeithio gan y gwasanaeth.

Os hoffech fynychu’r cyfarfod ar gyfer arsylwi, neu os hoffech fwy o wybodaeth am graffu yn gyffredinol, gallwch ymweld â’n gwefan: www.abertawe.gov.uk/craffu neu cysylltwch â ni drwy e-bostio craffu@abertawe.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.