Cyflawni ar gyfer dysgwyr diamddiffyn – 10 cwestiwn i’w gofyn

scrutiny-group-logo

Cyfarfu Gr?p Cynghorwyr Craffu Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) ar 27 Medi 2016, ac un o’r materion a drafodwyd ganddynt oedd sut mae pob corff craffu awdurdod lleol yn herio ei ysgolion a’r hadran addysg wrth edrych ar y modd y caiff y grand amddifadedd disgyblion ei warion ar ddysgwyr diamddiffyn.

Trafododd y gr?p fframwaith o ‘bethau sy’n gweithio’ gan gynnwys edrych ar, er enghraifft, y bwlch mewn cyrhaeddiad, trechu tlodi a chysylltu â’r grant amddifadedd disgyblion.

O’r sesiwn hon, nododd y gr?p nifer o gwestiynau allweddol y gall cyrff craffu unigol eu gofyn pan fyddant yn siarad ag ysgolion a’u hadran addysg am y mater hwn:

  1. Ar beth rydych chi’n gwario’ch Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD)?
  2. A yw wedi gwneud gwahaniaeth: Ydy e’n gweithio? Oes tystiolaeth am sut mae’n gweithio?
  3. Pam rydych chi’n targedu arian ar…(a yw’n fater penodol yn eich ysgol)?
  4. Sut mae’ch gwariant GAD yn cysylltu â’r blaenoriaethau a nodwyd yn eich Cynllun Gwella Ysgol?
  5. Ydych chi’n cysylltu â rhanddeiliaid eraill er enghraifft Iechyd?
  6. Ydych chi’n gweithio ar draws clwstwr o ysgolion i gronni a rhannu’ch gwariant GAD a chyflwyno gwelliannau’n fwy helaeth?
  7. Sut ydych chi’n cynnwys rhieni disgyblion diamddiffyn (disgyblion prydau ysgol am ddim cPYDd)
  8. Beth rydych chi’n ei wneud i sicrhau agweddau dyheadol cadarnhaol yn eich ysgol at ddisgyblion ddisgyblion cPYDd?
  9. Beth rydych chi’n ei wneud ynghylch datblygiad proffesiynol parhaus?
  • Ydych chi’n dylanwadu ar hyfforddiant cychwynnol i athrawon o ran cPYDd a’r bwllch mewn cyrhaeddiad?

Mae rhanbarth ERW yn cynnwys chwe awdurdod lleol ac mae’r rhain yn cynnwys Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro, Powys, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae mwy o wybodaeth am ERW ar gael  yma.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am graffu, gallwch fynd i’n gwefan yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.