Beth sy’n digwydd ym myd craffu addysg yn Abertawe?

 

5850264509_667d3f2b86_o

Mae Dysgu’n Creu Llanast 

Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, sef corff craffu addysg Cyngor Abertawe, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran  perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

Dyma’r cyfarfodydd sydd ar ddod ar gyfer y panel hwn:

16.11.16 am 4.00pm (Ystafell Gyfarfod 235 yn Neuadd y Ddinas) – Bydd y panel yn edrych ar:

  • Yr Adroddiad Archwiliad Ysgolion Blynyddol
  • Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am arfer adferol yn Abertawe; ac
  • Edrych ar berfformiad disgyblion diamddiffyn, yn enwedig y rhai sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. Bydd hyn yn cynnwys sut mae ysgolion yn defnyddio’u Grant Amddifadedd Disgyblion.

8.12.16 am 4.00pm (Ystafell Gyfarfod 6 yn Neuadd y Ddinas) – Bydd y panel yn edrych ar:

  • Berfformiad Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal yn Abertawe.
  • Datblygiad y cwricwlwm newydd – Ysgolion Arloesol yn Abertawe

Gallwch ddod o hyd i gopïau o’r holl agendâu craffu ar ein gwefan yn www.abertawe.gov.uk/cyhoeddiadaucraffu (bydd papurau’r ddau gyfarfod ar gael ar ddiwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).

Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd wylio o’r oriel gyhoeddus.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.