Gweithgor Craffu Tai Amlfeddiannaeth

Swansea Maison

Cytunodd y tîm craffu i edrych ar destun Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) yn Abertawe ar ôl derbyn cais am graffu gan aelod o’r cyhoedd.Mae’r mater a godwyd yn ymwneud â niferoedd a rheolaeth Tai Amlfeddiannaeth yn Abertawe, ac yn enwedig sut mae Tai Amlfeddiannaeth yn lledaenu i ochr y dwyrain oherwydd campws newydd y Brifysgol, a’r effaith ar ardaloedd lleol.

Bydd y gweithgor yn ystyried:

  • Cyfrifoldebau’r cyngor (deddfwriaethol neu fel arall) a’r sefyllfa bresennol o ran trwyddedu, rheoli a rheolaeth HMOs a chynlluniau’r dyfodol.
  • Nodau/targedau/mesurau perfformiad y gwasanaeth.
  • Costau’r gwasanaeth.
  • Dwysedd HMOs ar draws Abertawe gan gynnwys cymharu’r Dwyrain/Gorllewin.
  • Newidiadau/tueddiadau ac achosion diweddar. Rhagamcaniadau’r dyfodol.
  • Ymgysylltiad y cyngor â’r prifysgolion/landlordiaid/darparwyr HMO a gweithio mewn partneriaeth.
  • Yr effaith ar refeniw Treth y Cyngor o eiddo HMO
  • Barn partïon â ddiddordeb.

Trefnwyd dau gyfarfod o’r gweithgor i edrych ar y mater hwn:

  • 25 Tachwedd 2016 – Sesiwn friffio ar y testun gan swyddogion y cyngor
  • 12 Ionawr 2017 – Barn partïon â diddordeb a thrafodaeth â’r Aelod(au) Cabinet

Bydd y gweithgor yn nodi ei farn a’i argymhellion i fynd i’r afael â phryderon mewn llythyr at yr Aelod(au) Cabinet perthnasol wedi iddo ddod i benderfyniad.

Mae’r rhain yn gyfarfodydd agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd arsylwi o’r oriel.Derbynnir barn partïon â diddordeb/y cyhoedd yn y cyfarfod ar 12 Ionawr.Rhoddir mwy o wybodaeth am hyn ar y blog hwn.

Os hoffech fwy o wybodaeth am y cyfarfod hwn neu am graffu’n gyffredinol gallwch fynd i’n gwe-dudalennau yn www.abertawe.gov.uk/craffu neu e-bostiwch ni yn scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.