Uchelgais y cyngor ar gyfer gwasanaethau addysg mewn lleoliad heblaw’r ysgol yw bod yn rhagorol ac nid yn dda yn unig

pic courtesy www.thewhocarestrust.org.uk

pic courtesy www.thewhocarestrust.org.uk

Cyfarfu cynghorwyr ar 3 Ionawr i drafod y diweddaraf am effaith eu hymchwiliad craffu i gynhwysiad addysg, lle gwnaethant gyfarfod ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Phennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr.

Canfu’r panel bod cynnydd da yn cael ei wneud mewn perthynas â’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y panel ymchwilio craffu cynhwysiad addysg, a gellir gweld yr argymhellion yn cael eu hadlewyrchu yn y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud, ac wrth baratoi papur cabinet opsiynau’r  cyngor sy’n cynnig archwilio’r gwasanaeth addysg heblaw yn yr ysgol gyfan.

Roedd y panel yn falch o glywed am yr ymgynghoriad â disgyblion sy’n dechrau bwydo i’r broses. Cawsant wybod bod pobl ifanc wedi dweud wrthym eu bod am gael amgylchedd gofalgar sy’n meithrin, ac maent am barhau i gael cyswllt â’u hysgol wreiddiol, hyd yn oed wedi iddynt gael eu gwahardd. Mae angen i ysgolion ddeall hyn a sicrhau bod ganddynt systemau ar waith i wireddu hyn.

Clywodd y panel fod Pennaeth newydd EOTAS wedi’i benodi, a bydd yn cychwyn yn y swydd yn nhymor yr haf. Bydd yn rhan amlwg o’r datblygiadau dros y misoedd i ddod. Roedd cynghorwyr yn falch o glywed bod ganddi hanes o wella deilliannau.

Canmolwyd Jack Straw, cyn Prif Weithredwr Abertawe, gan Aelod y Cabinet dros Addysg am ei rôl wrth helpu i archwilio’r gwasanaeth addysg heblaw yn yr ysgol gyfan yn helaeth, ac yn arbennig am sicrhau bod y mater hwn o bwys ar agenda blaenoriaethau’r cyngor, gan sicrhau ymagwedd gorfforaethol at roi sylw i’r mater hwn, ac am ddod o hyd i arian er bod cyllidebau’n dynn iawn. Mae’r panel yn cytuno â hyn, ac yn bwriadu ysgrifennu ato i ddangos ei werthfawrogiad.

Roedd y panel yn falch iawn o glywed am y cynnydd o ran dod o hyd i adeilad a lleoliad addas ar gyfer gwasanaethau EOTAS, ac wedi’u calonogi gan yr astudiaeth dichonoldeb sydd ar ddod ar gyfer cyfleuster newydd posib yn y Cocyd. Er bod y safle wedi bod yn gysylltiedig â’r gwasanaeth troseddau ieuenctid, teimlodd y panel fod pwyntiau cadarnhaol posib y safle’n gorbwyso hyn, yn enwedig gan fydd y gwasanaeth cyfan yn cael ei ail-frandio. Clywodd y cynghorwyr fod rhai o bwyntiau cadarnhaol posib y safle’n cynnwys: ei leoliad gwyrdd a deiliog sy’n agos at ysgol gyfun a choleg addysg bellach. Mae hefyd yn safle mawr y bydd ganddo gyfleusterau awyr agored yn ogystal ag adeiladau mwy cyfoes ac addas. Mae lleoliad y safle’n ddigon canolog i bobl ifanc deithio i’r safle ac oddi yno.

Trafododd cynghorwyr y mater o gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc. Clywodd y panel nad oes llwybr uniongyrchol o EOTAS i’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, ac roeddem yn poeni’n arbennig am y potensial y gallai hyn fod yn wendid yn y broses newydd hon o archwilio a diwygio EOTAS, yn enwedig o ran diwallu anghenion nifer o’r plant diamddiffyn hyn yn y dyfodol. Hoffem weld cysylltiad clir â’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a llwybr iddo o EOTAS. Rydym wedi cytuno i ysgrifennu at Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn iddynt ystyried y mater hwn yn eu rhinwedd fel sefydliad amlasiantaeth.

Mae’r panel bellach yn teimlo’n optimistaidd o ran y plant sy’n defnyddio gwasanaethau EOTAS ac yn teimlo y bydd plant diamddiffyn o fewn y system addysg yn Abertawe’n cael eu gwasanaethu’n well yn y dyfodol. Roedd cynghorwyr yn arbennig o falch i glywed mai’r uchelgais am y gwasanaeth hwn yw bod yn rhagorol, ac nid yn dda yn unig. Mae hyn yn dod â’n hymchwiliad i Gynhwysiad Addysg i ben.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr ymholiad hwn neu graffu’n gyffredinol, ewch i’r wefan craffu yn www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.