Panel Craffu Addysg Grefyddol yn Cyfarfod Eto

scrutiny-group-logo

Bydd Cynghorwyr Craffu o’r chwe awdurdod lleol yn cyfarfod eto ddiwedd mis Chwefror.  Diben y gr?p yw helpu i sicrhau’r deilliannau addysgol gorau i blant yn rhanbarth Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) trwy gefnogi craffu effeithiol i

  1. gefnogi craffu cyson ar draws y chwe chyngor
  2. rhannu arfer da o ran craffu
  3. annog ymagweddau craffu a rennir ac osgoi dyblygu gwaith craffu
  4. rhoi her feirniadol a gwrthrychol i ERW ar bynciau o ddiddordeb yn ôl y galw
  5. cyfrannu i lywodraethu ERW mewn modd da ac effeithiol

Ar 27 Chwefror, bydd cynghorwyr yn

  • rhannu eu rhaglenni gwaith craffu unigol
  • Cynllun Busnes, Arolwg Estyn – diweddariad
  • Ystyried rôl deiliaid portffolios dan oruchwyliaeth ERW
  • Ystyried llywodraethu ysgolion ar draws y rhanbarth

Bydd arweinydd y gr?p wedyn yn ysgrifennu llythyr at Gyd-bwyllgor ERW i roi barn ac argymhellion sy’n deillio o’r cyfarfod hwn.

Bydd y papurau ar gael ar ein gwefan yn www.abertawe.gov.uk/article/11669/Ydych-chin-chwilio-am-agenda-llythyr-neu-adroddiad.

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.