Ysgolion Abertawe’n perfformio’n dda yn ôl Craffu

homework_1

Bu cynghorwyr yn trafod Perfformiad Blynyddol yr Adran Addysg ar gyfer 2015/16 gydag Aelod y Cabinet dros Addysg a’r Prif Swyddog Addysg. Maent yn hapus gyda’r llun cadarnhaol yn y gwasanaeth addysg yn Abertawe ac maent am longyfarch ysgolion, cyrff llywodraethu a’r adran addysg am eu gwaith caled a’u hymroddiad i wella deilliannau disgyblion yn ogystal â lles plant yn Abertawe.

Nododd Cynghorwyr Craffu’n benodol pa mor dda mae disgyblion Saesneg fel Iaith Ychwanegol yn perfformio yn Abertawe sy’n glod i gynhwysedd ein hysgolion, gwaith ysgolion a’r Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol a brwdfrydedd disgyblion a’u rhieni.

Ar ôl ystyried y data, daethant i’r casgliadau canlynol:

  • Ar ôl pwyso a mesur, gwelir bod tuedd at i fyny ar draws pob cyfnod allweddol.
  • Mae presenoldeb wedi gwella eto ac mae tuedd clir at i fyny.
  • Mae nifer y gwaharddiadau cyfnodau penodol wedi gostwng yn gyflymach na Chymru gyfan ac maent bellach y trydydd isaf yng Nghymru.
  • Mae perfformiad disgyblion Saesneg fel Iaith Ychwanegol yn dangos tuedd pum mlynedd cryf at i fyny gyda chanlyniadau Cyfnod Allweddol 4 yn well na disgyblion nad ydynt yn astudio Saesneg fel Iaith Ychwanegol.
  • Mae gennym lawer o heriau o hyd ac mae angen i ni barhau i ganolbwyntio ar y rhain.
    • Gwelir tuedd at i fyny yn y Cyfnod Sylfaen ond mae’r canlyniadau yn is na Chymru gyfan o hyd ac rydym yn y 19 safle o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
    • Mae bwlch mawr rhwng perfformiad disgyblion sy’n gymwys am PYDd a Phlant sy’n Derbyn Gofal a’u cyfatebwyr mewn ysgolion.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.