Ailystyried y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Lleol

Mewn cyfarfod ar 1 Mawrth, clywodd cynghorwyr fod Abertawe, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, wedi cyflwyno’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn llwyddiannus ar gyfer cylch 2015 i 2021. Roedd yn bleser ganddynt glywed bod gwaith partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio’n dda iawn ac ar ei fwyaf effeithiol erioed.

Dysgodd y Panel Craffu Perygl Llifogydd Lleol fod gwaith ar y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi datblygu rhestr o beryglon posib sydd wedi cael eu blaenoriaethu â rhaglen gysylltiedig o brosiectau a gwaith cynnal a chadw. Clywsant fod y rhaglen waith wedi cael ei datblygu ar sail casgliadau y daethpwyd iddynt trwy ddefnyddio mapiau llifogydd cenedlaethol a gwybodaeth leol.

Roedd o ddiddordeb i’r cynghorwyr glywed bod y perygl llifogydd yn Abertawe yn gysylltiedig fwyaf â chyrsiau d?r bach a’r mynediad i gwlferi a bod yr awdurdod wedi rhoi blaenoriaeth i archwilio’r cyrsiau d?r hyn yn unol â maint y perygl llifogydd a goblygiadau llifogydd.

Roedd yn bleser gan y panel glywed bod gan yr awdurdod ar hyn o bryd raglen cynnal a chadw reolaidd i archwilio a chlirio gridiau ar gyrsiau d?r a chwlferi priffyrdd sy’n eiddo’r cyngor.  Mae pob un wedi’i ddosbarthu’n lleoliad blaenoriaeth Coch, Uchel neu Isel a chynhelir archwiliadau cyn neu yn ystod tywydd garw.

Clywodd y cynghorwyr y caiff 80 o faterion â blaenoriaeth eu hystyried yn ystod y rhaglen chwe blynedd. Yna bydd angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar rai mannau lle mae problemau a bydd angen asesu mannau eraill i bennu a fyddai opsiynau eraill neu waith arall yn briodol. Clywsant hefyd fod rhaglen ar waith i glirio gylïau unwaith bob tair blynedd.

Roedd y panel yn dymuno gwybod mwy am sut rydym yn hysbysu’r cyhoedd a chynghorwyr am waith sy’n rhan o’r cynllun a gwybodaeth fwy cyffredinol am berygl llifogydd. Clywsom fod taflen ar gael ar wefan y cyngor sy’n rhoi gwybodaeth am bwy y gellir cysylltu ag ef etc, ond bod angen diweddaru hon. Cytunodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant i drefnu i’r daflen gael ei hadolygu, ei diweddaru a’i dosbarthu i adeiladau cyhoeddus y cyngor yn ogystal â’i rhoi ar y wefan. Bydd hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall y cyhoedd ei wneud drostynt eu hunain i helpu i amddiffyn eu heiddo rhag llifogydd, yn benodol mewn mannau lle mae perygl llifogydd.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.